Gallwch weld lefelau diweddaraf ansawdd aer mewn safleoedd ar draws Cymru, gan gynnwys Wrecsam, ar wefan Llywodraeth Cymru Ansawdd Aer yng Nghymru (dolen gyswllt allanol).

Adroddiadau ansawdd aer

Fel awdurdod lleol, mae gennym ni (Cyngor Wrecsam) ddyletswydd i archwilio ansawdd aer yn ein hardal. Mae hyn er mwyn penderfynu os yw’r ansawdd aer yn bodloni safonau ac amcanion a nodir gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn cyflwyno adroddiadau ansawdd aer yn flynyddol ac yn eu cyhoeddi unwaith i Lywodraeth Cymru dderbyn y canlyniadau.

Gallwch wneud cais am gopïau o adroddiadau blaenorol drwy anfon e-bost at public_protection_service@wrexham.gov.uk.

Monitro data

Dod o hyd i ddata monitro awtomatig a’r rhai heb fod yn awtomatig.

Cofrestrau cyhoeddus (prosesau diwydiannol)

Prosesau rhan A1

Diffinnir prosesau rhan A1 fel prosesau sydd â’r posibilrwydd i lygru dŵr, tir a’r aer. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio’r prosesau hyn. I weld y broses cofrestr gyhoeddus rhan A1 dylech cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Prosesau rhan A2 a rhan B

Mae prosesau rhan A2 gyda phosibilrwydd llai o lygru na phrosesau rhan A1 ac rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn rheoleiddio’r rhain. Prosesau rhan B yw’r rhai sydd â’r posibilrwydd o lygru i’r aer yn unig; rydym hefyd yn rheoleiddio’r prosesau hyn.

Rydym yn cynnal cofrestr gyhoeddus ar brosesau rhan A2 a rhan B yn Sir Wrecsam.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am weld y gofrestr gyhoeddus, anfonwch e-bost at HealthandHousing@wrexham.gov.uk.

Dolenni perthnasol

Adrodd am faterion llygredd

Adrodd am lygredd

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i adrodd am lygredd (gan gynnwys llygredd a achosir gan dannau gwyllt, gollyngiadau cemegol, allyriadau simneiau, a mwg).

Dechrau rŵan

Adrodd am niwsans mwg

Byddwn yn ymchwilio i unrhyw gwynion am niwsans mwg statudol os ydynt o dannau gwyllt domestig neu eiddo masnachol/diwydiannol megis safle adeiladu. 
Er mwyn i fwg gael ei ystyried fel niwsans statudol, rhaid iddo unai:

  1. Ymyrryd yn rheolaidd, sylweddol ac yn afresymol gyda’r defnydd neu fwynhad o gartref neu eiddo arall
  2. Niweidio iechyd neu’n debygol o niweidio iechyd

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i adrodd am niwsans mwg:

Dechrau