Rhaid i unrhyw un yn Wrecsam sy’n cyflawni’r gwaith canlynol o dyllu’r croen fod wedi cofrestru gyda’n Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd:

  • tatŵio
  • tyllu cosmetig
  • aciwbigo 
  • electrolysis
  • lliwio croen yn lled-barhaol

Rhaid i’r unigolyn sy’n cyflawni’r gwaith a’r eiddo fod wedi cofrestru ac wedi derbyn tystysgrif cofrestriad gan y gwasanaeth.

Mae’n anghyfreithlon tatŵio, tyllu cosmetig, aciwbigo, gwneud electrolysis neu liwio’r croen yn lled-barhaol oni bai fod y cofrestriad wedi ei gymeradwyo yn ffurfiol (mae cymeradwyaeth yn cynnwys ymweliad i’ch eiddo gan ein Swyddog Iechyd a Diogelwch).

Mae cofrestru yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 Rhan VIII (fel y diwygiwyd).

Safonau diogelwch a hylendid

Fel ymgeisydd mae’n rhaid i chi sicrhau bod y triniaethau, offer a chyfleusterau sy’n cael eu defnyddio yn ddiogel, hylan, yn osgoi lledaenu afiechyd ac yn cydymffurfio’n llwyr gyda dyletswydd gofal cyffredinol sy’n angenrheidiol gan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.

Is-ddeddfau Lleol

Rydym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) wedi mabwysiadu’r is-ddeddfau enghreifftiol ar gyfer aciwbigo, tatŵio, lliwio croen yn lled-barhaol, tyllu cosmetig ac electrolysis.

Mae’r is-ddeddfau yn cynnwys:

  • glendid yr eiddo a’r cyfarpar
  • glendid yr unigolion
  • glanhau a sterileiddio offer, deunyddiau a chyfarpar

Crynodeb o drwydded gweithdrefnau tyllu croen

Crynodeb o’r drwydded

I gynnig triniaethau tyllu croen – gan gynnwys tatŵio, tyllu clustiau a’r corff, aciwbigo ac electrolysis – rhaid i’r unigolyn sy’n cyflawni’r driniaeth a’r eiddo fod wedi cofrestru gyda ni (awdurdod lleol)

Rhaid i geisiadau gynnwys unrhyw wybodaeth y gofynnwn amdano.

Ydi cydsyniad mud yn berthnasol?  Nac ydi. Mae er lles y cyhoedd ein bod ni (yr awdurdod lleol) yn gorfod prosesu eich cais cyn y gallwn ei gymeradwyo. Dylech gysylltu â ni (yn defnyddio’r manylion cyswllt isod) os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.
Targed ar gyfer dyddiad cwblhau  28 diwrnod calendr 
Ffioedd  £120 ar gyfer yr eiddo, £60 ar gyfer pob ymarferydd, £30 i wneud unrhyw newidiadau i gofrestriad yr eiddo neu ymarferwyr.
Gwneud cais ar-lein

GOV.UK: Cais am drwydded i gyflawni aciwbigo, tatŵio, tyllu’r croen ac/neu electrolysis (dolen gyswllt allanol)

GOV.UK: Cais i newid trwydded unigolyn sy’n tatŵio, tyllu’r croen neu’n gwneud electrolysis (dolen gyswllt allanol)

Cyswllt

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk
Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd,  Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

Cwyn gan y Cwsmer

Os oes cwyn cynghorwn bob tro eich bod yn cysylltu gyntaf â’r masnachwr - drwy lythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf eich bod wedi postio’r llythyr). Os na fydd hynny’n gweithio gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi os ydych yn byw yn y DU.

Cyngor ar Bopeth – cysylltwch â’r llinell gymorth i gwsmeriaid (dolen gyswllt allanol)

O du allan y DU cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU (dolen gyswllt allanol).

Ffioedd cais am drwydded

I wneud cais am drwydded sydd yn eich galluogi i gyflawni gweithdrefnau tyllu’r croen, neu am drwydded eiddo lle mae’r gweithredoedd hyn yn cael eu cynnal byddwch angen talu ffi.

Mae’r cyfanswm yr ydych angen ei dalu yn dibynnu ar y math o drwydded(au) yr ydych yn gwneud cais amdani/amdanyn nhw. 

Ffioedd cais am drwydded
Math o Drwydded   Ffi ymgeisio
Eiddo £120
Ymarferwyr  £60

Bellach mae ffi o £30 i wneud unrhyw newidiadau i’r tystysgrifau cofrestru ar gyfer eiddo neu ymarferwr (yn cynnwys yr ymarferwr yn symud i eiddo arall).

Sut i wneud cais am drwydded

I wneud cais am drwydded mae angen i chi llenwi'r ffurflen gais gov.uk i dalu’r ffioedd cais.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

Ar ôl i chi gyflwyno cais a thalu’r ffi byddwn yn dod i archwilio eich eiddo. Os bydd y swyddog archwilio yn gweld bod eich gweithdrefnau, a’r eiddo yn addas, yna bydd y cofrestriad yn cael ei gadarnhau.

Gall y swyddog eich cynghori ar sut i gyflawni’r rhwymedigaethau sydd yn berthnasol ar ôl cymeradwyo’r cofrestriad.

Ydw i angen gwneud unrhyw beth arall ar ôl cael y dystysgrif cofrestru?

Ydych, mae’n rhaid i chi arddangos copi o’r dystysgrif cofrestru a’r is-ddeddfau perthnasol yn yr eiddo cofrestredig.