Cynghorwyr

Caiff Cynghorwyr lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai'r cyngor gyflawni ei amrywiol weithgareddau. Maent yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy'n byw yn y ward y mae ef neu hi wedi cael ei ethol i’w gwasanaethu am dymor.

Byddant mewn cyswllt rheolaidd â'r cyhoedd drwy gyfrwng cyfarfodydd y cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae cymorthfeydd yn rhoi cyfle i unrhyw breswylydd yn y ward fynd a siarad â'u cynghorydd wyneb yn wyneb ac mae'r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

Tydi’r blaid y mae cynghorwyr yn sefyll drosti mewn etholiad ddim bob tro’n cyd-fynd â’r grwp gwleidyddol y mae’n nhw’n aelod ohono – weithiau y byddant yn sefyll dros un blaid, ond yn ymuno â grwp arall ar ôl cael eu hethol.

Nid yw cynghorwyr yn cael eu cyflogi gan y Cyngor ond gallent dderbyn taliadau am eu gwaith fel Cynghorwyr.