Mae datganiad ar bolisïau tâl Cyngor Wrecsam yn cael ei adolygu a’i gyhoeddi yn flynyddol, yn unol â Phennod 8 o’r Ddeddf Lleoliaeth 2011.  Mae’r datganiad yn egluro sut rydym yn talu ein gweithwyr, yn arbennig uwch staff (‘prif swyddogion’) a’r gweithwyr ar y tâl isaf.  

Mae'n rhaid i’r datganiad:

  • gael ei gymeradwyo gan Gyngor Llawn 
  • gael ei baratoi a’i gymeradwyo cyn diwedd Mawrth yn flynyddol (cyhoeddiad cyntaf 2012) 
  • dod i rym a chael ei lunio o ddyddiad ei gymeradwyo
  • gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdodau perthnasol

Dogfennau