Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl. Serch hynny, rydym yn deall fod yna adegau pan nad ydym yn bodloni eich disgwyliadau. Os mai dyma’r achos, gallwch ddilyn ein gweithdrefn gwyno i geisio datrys eich pryderon.

Bydd y mwyafrif o gwynion y byddwn ni’n eu derbyn yn cael eu trin drwy’r weithdrefn gwyno gorfforaethol.

Dylid defnyddio’r weithdrefn hon hefyd os ystyrir y mater yn gŵyn sy’n ymwneud â’n cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.

Mae’r weithdrefn yn cynnwys dau gam - anffurfiol a ffurfiol. Byddwn fel rheol yn ceisio datrys eich cwyn yn anffurfiol i ddechrau, oni bai fod difrifoldeb y gŵyn yn golygu fod angen ymchwiliad ffurfiol ar frys. 

Cyn gwneud cwyn

Cyn i chi anfon cwyn trwy’r broses gweithdrefn gwyno, gwiriwch a oes modd i chi adrodd y mater ar-lein i ni yn gyntaf.

Os ydych chi’n adrodd am fater i ni am y tro cyntaf (er enghraifft casgliad sbwriel sydd wedi’i fethu neu dwll yn y ffordd) ni fydd y weithdrefn gwynion yn berthnasol. 

Ni ellir ymdrin â materion sy’n ymwneud â rhybuddion cosb benodedig (sbwriel a rheoli cŵn) neu rybudd talu cosb (parcio) o dan y weithdrefn gwynion. Gellir dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut i apelio’r rhain ar y tocyn a roddir i chi.

Gweithdrefn Gwyno Gorfforaethol

Cwynion anffurfiol

Gallwch wneud cwyn yn uniongyrchol drwy gysylltu â’r person neu’r tîm rydych chi’n delio ag o ar hyn o bryd. Unwaith y byddwch wedi gwneud cwyn byddant yn ceisio datrys y mater o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon gallwch ofyn am ymchwiliad ffurfiol. Byddem yn disgwyl i’r tîm perthnasol gael cyfle i ymateb i’ch pryderon i ddechrau, cyn symud y mater ymlaen i fod yn gŵyn swyddogol.

Cwynion Ffurfiol

Os ydych chi’n parhau i fod yn anhapus ar ôl codi’ch cwyn gyda’r tîm neu wasanaeth yn uniongyrchol, gallwch symud ymlaen at ymchwiliad ffurfiol. Bydd ein tîm Cwynion yn ymchwilio i unrhyw gwynion ffurfiol ac mae’n annibynnol o unrhyw wasanaeth y mae’r cwyn yn gysylltiedig ag o.

Bydd y tîm Cwynion yn cydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith ac yn pennu swyddog i ymchwilio i’r pryderon a godwyd. Bydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith. Efallai y bydd y swyddog yn cysylltu â chi yn ystod yr ymchwiliad os oes angen rhagor o wybodaeth arno. Unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, fe gewch ymateb ysgrifenedig – yn manylu ar y canfyddiadau, casgliadau ac unrhyw argymhellion.

Ni all y tîm Cwynion newid na diwygio penderfyniad neu gamau gweithredu yr adran berthnasol (e.e. apwyntiad a drefnwyd, gwaith arfaethedig) tan i’r ymchwiliad ffurfiol ddod i ben. Dylech gyfeirio eich cais at y gwasanaeth perthnasol o dan yr amgylchiadau hyn. 

Sut i anfon cwyn

Gallwch anfon cwyn trwy’r ffurflen ar-lein ar Fy Nghyfrif (bydd angen i chi gofrestru gyda Fy Nghyfrif yn gyntaf os nad ydych wedi gwneud eisoes).

Cyflwyno cwyn ar-lein

Dechrau

Cysylltwch â ni

Y ffordd gyflymaf a’r hawsaf o gyflwyno cwyn yw defnyddio’r ffurflen ar-lein. Fel arall, gellir cysylltu â’r tîm Cwynion ar y canlynol:

E-bost: cwynion@wrexham.gov.uk

Tîm Cwynion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Sir
Wrecsam
LL11 1AY

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad eich cwyn yn dilyn ymchwiliad ffurfiol, gallwch gwyno'n uniongyrchol i Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus.