Neidio i chwilioNeidio i’r Cynnwys
MewngofnodiCreu Cyfrif
Gwasanaethau A-Y
Hysbysebu
(dd.mm.yy)
13.12.19
Cyngor Cymuned Penycae
Hysbysiad o Etholiad Cyngor Cymuned Penycae - Ward Eitha.
10.12.19
Y Nadolig
Digwyddiadau Nadolig. Oriau agor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Rhaglen Gwaith Amgylcheddol wedi'i Gynllunio 2019-20
Mae'r rhaglen isod yn cynnwys manylion y gwaith cyfalaf mawr i wella wyneb y briffordd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2019/20. Mae'r gwaith a nodir yn y rhaglen hon yn cynnwys dulliau traddodiadol o wynebu ffyrdd, gwaith trwsio sylweddol ac ailadeiladu ffyrdd yn llwyr.
08.11.19
Etholiad Senedd y DU 2019
Rhybudd Etholiad ar gyfer Etholaeth De Clwyd / Etholaeth Wrecsam.
30.08.19
Llunio Dyfodol Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam
Gwyddom fod gofynion ein cwsmeriaid yn newid a bod yna nifer o drigolion nad ydyn nhw’n defnyddio ein gwasanaethau llyfrgell am nad ydi’r gwasanaethau hynny’n bodloni eu hanghenion. Mae’r angen i sicrhau ein bod yn cynnig yr hyn y mae’n trigolion ei eisiau, pan maen nhw ei eisiau, wedi ein hannog i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’n gwasanaethau llyfrgell.
13.08.19
Swyddi Gofal Cymdeithasol
Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam, rydym wedi ailstrwythuro, gan greu dwy swydd allweddol i ymuno ag uwch dîm rheoli profiadol a sefydledig. Rydym yn chwilio am ddau Bennaeth Gwasanaeth profiadol a brwdfrydig.
09.08.19
Etholiadau Presennol / Swyddi
Cyngor Cymuned Brymbo - Ward Brymbo. Cyngor Cymuned Rhosllannnerchrhugog - Ward De Ponciau.
07.08.19
Archwiliad o Gyfrifon 2018/2019
“Dyma rybudd, bod yr Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi tystio fod yr archwiliad o gyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2019 wedi ei gwblhau, yn unol ag Adran 23 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (y Ddeddf).
27.06.19
Grant Datblygu Disgyblion- Mynediad Llywodraeth Cymru
Bydd y Grant Mynediad GDD ar agor i geisiadau ar ddechrau mis Gorffennaf 2019. Gwerth y grant yw £125 i bob dysgwr cymwys ac eithrio Blwyddyn 7. Bydd gan ddysgwyr cymwys ym Mlwyddyn 7 hawl i £200.
26.06.19
Cynllun y Cyngor 2019-22
Cymeradwywyd Cynllun y Cyngor yn 2017 ac mae’n nodi 14 o amcanion ar draws pedair thema yr Economi, Pobl, Lle a Threfniadaeth.
25.06.19
Pwyllgor Safonau Penodi Aelod Annibynnol (2 swydd wag)
Ydych chi’n wrandäwr da? Ydych chi’n fusneslyd? Allwch chi bwyso a mesur tystiolaeth sy’n gwrthdaro a dod i gasgliad effeithiol? Allwch chi weithio fel rhan o dîm? Ydych chi’n parchu eraill ac a oes gennych chi ddealltwriaeth o werthoedd moesegol cryf a pharch atynt? Ydych chi’n onest gyda chymeriad da?
13.06.19
Lleisiwch eich barn am y toiledau sydd ar gael i’r cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am asesu anghenion y gymuned o ran toiledau a llunio cynllun i ymateb i’r canfyddiadau. At ddibenion yr arolwg hwn a’r strategaeth, mae’r gair ‘toiled’ yn cynnwys ystafelloedd newid babanod a chyfleusterau lleoedd newid ar gyfer pobl anabl.
12.06.19
Ymgynghoriad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2020-22
Cymeradwywyd Cynllun presennol y Cyngor yn 2017 ac mae’n cynnwys pedair thema: Economi, Pobl, Lle a Sefydliad. O dan bob un o’r themâu hyn, mae nifer o amcanion (cyfanswm o 14).
24.05.19
RHODDIR Y RHYBUDD yn unol ag Adrannau 29 i 31 o Ddeddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru) 2004, a Chyfrifon a Rheoliadau Archwiliad (Cymru) 2014.
23.05.19
Pennaeth Gwasanaeth TGCh (Hysbyseb Swydd)
Mae ystod cyflog y Pennaeth Gwasanaeth TGCh £49,798 – £52,545 y flwyddyn.
22.05.19
Maeryddiaeth 2019/2020
Y Maer ar gyfer 2019/2020 yw’r Cynghorydd Rob Walsh yng nghwmni ei Maeres Sharon Pope.
26.04.19
Etholiadau Ewropeaidd
Cynhelir yr etholiadau Ewropeaidd nesaf ddydd Iau, 23 Mai 2019.
01.04.19
Y Cyfansoddiad
Y Cyfansoddiad sy’n pennu sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu, sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a’r gweithdrefnau sy’n cael eu dilyn i sicrhau bod y Cyngor yn effeithlon, yn agored ac yn atebol i bobl leol.
26.03.19
Etholiadau sydd i Ddod (Brymbo, Parc Caia a Gresffordd)
Cyngor Cymuned Brymbo - Ward Brymbo. Cyngor Cymuned Parc Caia - Ward Whitegate. Cyngor Cymuned Gresffordd - Ward Dwyrain.
14.03.19
Ymgynghoriad ar Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas - Hysbysiad Statudol
Yn dilyn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol ar 12 Mawrth 2019, rhoddwyd caniatâd i gyhoeddi Hysbysiadau Statudol am gyfnod o 28 diwrnod, i alluogi’r cynigion i symud ymlaen.
13.03.19
Digwyddiadau canol tref yn ystod diwrnod gêm Cymru v Trinidad a Tobago
Wedi methu cael gafael ar eich tocynnau at gyfer gem Cymru v Trinidad a Tobago? Dim problem. Beth am ddod draw i Wrecsam a mwynhau'r awyrgylch
08.03.19
Cydymffurfiaeth â'r Safonau Iaith Gymraeg
Adroddiad ar ymchwiliad i fethiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol
06.03.19
Brexit
Mae’r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar 29 Mawrth, 2019. Defnyddiwch y dolenni hyn i ddysgu sut mae Cymru yn paratoi, a dysgu pa gymorth sydd ar gael.
21.02.19
Enillwyr - Gwobrau Chwaraeon 2019
Cafodd gwaith caled sêr chwaraeon mwyaf Wrecsam a gwirfoddolwyr chwaraeon cymunedol yn y sir ei ganmol mewn seremoni wobrwyo.
07.02.19
Etholiadau sydd i Ddod (Brymbo a Brynyffynnon)
Cyngor Cymuned Brymbo - Ward Brymbo (14 Mawrth 2019). Cyngor Cymuned Offa - Ward Brynyffynnon (14 Mawrth 2019)
30.01.19
Rhaglen Grantiau Cyfleoedd Chwarae Digonol Wrecsam 2019
Sefydlwyd y rhaglen grantiau tymor byr hon gan fod Llywodraeth Cymru, yn ddiweddar, wedi rhoi cyllid ar gael i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant a Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Cymru, yn benodol.
15.01.19
Ymgynghoriad ar Ysgol Bro Alun, Wrecsam - Hysbysiad Statudol
Yn dilyn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol ar 08 Ionawr 2019, rhoddwyd caniatâd i gyhoeddi Hysbysiadau Statudol am gyfnod o 28 diwrnod, i alluogi’r cynigion i symud ymlaen.
20.12.18
Meithrin Ar Gyfer Medi 2019
Fe gewch chi wneud cais ar-lein am le Meithrin i’ch plentyn o 2 Ionawr 2019, gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Derbyn Ar-lein.
19.12.18
Oriau Agor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2018/19
Isod, cewch wybodaeth am oriau agor gwasanaethau’r Cyngor dros wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Hysbysebu ar wrecsam.gov.uk