

Mae'r Gwasanaeth Wrecsam i Bidston (cyswllt allanol) yn gweithredu cyswllt hanfodol rhwng Gogledd Ddwyrain Cymru a Glannau Mersi i deithwyr sy’n dymuno cymudo i’w gwaith, neu gael mynediad i’r niferoedd lu o atyniadau hamdden, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam ac un o saith o ryfeddodau Cymru – Eglwys San Silyn yn Wrecsam. Mae’r linell disel hefyd yn mynd i Benarlag, lleoliad Llyfrgell Deiniol a chyn gartref William Gladstone, ac yn cysylltiu â Rhwydwaith Merseyrail Electrics gyda chysylltiadau rheolaidd â Chanolfan Siopa Pen Bedw a marchnadoedd ynghyd â Lerpwl a’i llu o theatrau. Mae cyfleusterau siopa canol tref Lerpwl nid nepell o Orsaf Ganolog Lerpwl.
Yn Shotton mae cysylltiadau rheilffordd i mewn i Gaer a Crewe ac oddi yno, ac yn Wrecsam Gyffredinol mae cysylltiadau â’r Amwythig a’r Canolbarth.
Mae Llinell y Gororau’n rhedeg drwy fryniau a dyffrynnoedd Gogledd Ddwyrain Cymru, llanw’r Ddyfrdwy wrth groesi’r bont sy’n cysylltu Cymru a Lloegr, a chorsdiroedd aber y Ddyfrdwy. Mae hyn yn caniatáu i chi weld mynyddoedd trawiadol Cymru ac ysblander gwledig penrhyn Cilgwri.
Mae Grŵp Llywio’r Gororau’n cynnwys cynrychiolaeth swyddog o: