Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Hanes a Threftadaeth

Pan orffennodd Thomas Telford ei dyfrbont ym Mhontcysyllte ym 1805, hwn oedd y lle uchaf yn y byd yr oedd cychod yn gallu hwylio drosto.

Mae’n dal i fod. Mae’n dal i fynd â theithwyr ar daith orau eu bywydau. Ond erbyn hyn mae ar fap y byd.

Oherwydd yn 2009, gwnaeth UNESCO’r campwaith hwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd – ynghyd ag 11 o filltiroedd o gamlas, yn cynnwys Dyfrbont y Waun a rhannau o Siroedd Dinbych ac Amwythig cyfagos.

Y peth yw, dydyn ni ddim am ddweud yr hanes i gyd wrthot ti ar unwaith. Rydym ni am gadw rhywbeth yn ôl, cadw dy ddiddordeb.

Felly, wnawn ni egluro popeth nes ymlaen yn ‘harweiniad bach twt’ i’r Safle Treftadaeth Byd, ac mae copi cyfleus iawn o hwnnw yng nghanol y llyfryn yma.

Eiddo’r ymddiriedolaeth genedlaethol

Y tro nesaf y byddi di’n tocio dy wrych, paid ag anghofio’r pen garddwr yng Nghastell y Waun.

Mor anferthol yw’r gwrychoedd yw bod eisiau tua wyth wythnos ar dîm o ddynion i’w twtio nhw, pob un wrthi efo tociwr trydan ac yn creu tunelli o ddail a brigau.

Dychmyga roi hynny i gyd yn dy fin olwynion gwyrdd. Ond mae’n werth bob tamaid, cofia. Cafodd y gerddi eu pleidleisio’r gorau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol un tro.

Mae’r castell ei hun yn un o gadarnleoedd y Gororau, a godwyd ym 1310. Ond nid hen furddun mo hwn. Y gwir yw ei fod yn gartref ers 700 o flynyddoedd. Mae’r rhandai bonheddig mawreddog o’r 18fed ganrif yn llawn dop o waith plastr cywrain, dodrefn yn null Adam, gwaith tapestri a phortreadau.

Ac yn yr ystafell de maen nhw’n gwneud bara brith cartref bendigedig.

Ein heiddo arall gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (dydyn ni ddim am frolio, ond oes - mae gennym ni ddau) yw Erddig.

Os oeddet ti wedi dy gyfareddu gan y gyfres oedd ar y teledu yn ddiweddar Downton Abbey, byddi di’n deall yn iawn os dywedwn ni bod Erddig yn lle ‘i fyny ac i lawr y grisiau’. Mae gan y cartref bonedd hwn gymaint i’w ddweud am fywydau’r gweision ag am y perchnogion.

Castell y Waun 01691 777701
Erddig 01978 355314
www.nationaltrust.org.uk

Amgueddfa bwrdeistref sirol Wrecsam

Beth am ein plesio ni rŵan? Dychmyga dy fod yn ôl yn yr ysgol (oni bai dy fod yn dal yn yr ysgol). Maen nhw’n gofyn i ti ysgrifennu traethawd am hanes Wrecsam o’r dechrau at heddiw.

Rŵan’te, mi allet ti estyn am y gliniadur a chael sgwrs fach efo Mr Google (neu unrhyw beiriant chwilio dibynadwy arall). Ond mi fuasai mynd am dro i lawr i amgueddfa’r fwrdeistref sirol yn llawer mwy o hwyl i ti.

Bu’r adeilad yn ffodus o gael ei ailwampio yn 2010, efo estyniad trawiadol o wydr yn cynnig adran gaffi fendigedig, derbynfa a siop.

Mae digonedd yno hefyd o daclau a geriachrhyngweithiol newydd sy’n dod â’r arddangosfeydd yn fyw, gan adrodd hanes Wrecsam efo’r dechnoleg newydd.

Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod beth fyddai preswylydd hynaf yr adeilad yn ei feddwl o’r newidiadau i gyd. Un distaw braidd yw hwn, ond wedyn mae’n 3,500 oed.

Wedi ei gloddio allan gan weithwyr oedd yn torri ffos ym Mrymbo ym 1958, dim ond sgerbwd o fri oedd ‘Dyn Brymbo’ am blwc. Wedyn, wnaethon ni ofyn i’r Dr Caroline Wilkinson o’r rhaglen Meet the Ancestors ary BBC a fyddai hi’n ail-greu ei wyneb. Mae hi’n ddynes fedrus iawn.

Beth am y traethawd ’na? Siŵr o gael marciau llawn.

01978 297460
www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

Gwaith Haearn a Chanolfan Dreftadaeth y Bers

Pan oedd Gwaith Haearn y Bers yn ei anterth yn y 18fed ganrif, enw’r perchennog yno oedd John ‘Yr Hurtyn Haearn’ Wilkinson.

Rŵan, rydyn ni’n cyfaddef ei fod efallai’n ddyn braidd yn rhyfedd, ac yn sicr yn un oedd yn colli ei limpyn yn hawdd (wedi ffraeo efo James Watt, yr oedd ei beiriannau ager yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol efo cymorth silindrau wedi eu gwneud yn y Bers).

Ond athrylith oedd o hefyd. Datblygodd broses chwyldroadol a oedd yn fodd iddo dyllu canon, efo manwl gywirdeb eithriadol, allan o fetel bwrw solet.

Yn nodweddiadol, roedd yn cyflenwi arfau i’r ddwy ochr yn Rhyfel Annibyniaeth America a chafodd canonau’r Bers eu tanio mewn llawer o ymgyrchoedd Prydain ac yn Rhyfeloedd Napoleon a’r Penrhyn.

Heddiw, mae canolfan yr ymwelwyr yng ngwaith haearn y Bers yn cynnig i’r chwilfrydig y cyfle i ddysgu am un o feibion mwyaf arloesol – a hynod –Wrecsam. Dos yno i weld.

Teithiau Tywys Gwaith Haearn y Bers

Cwrdd ym maes parcio Canolfan Dreftadaeth y Bers. Ffoniwch 01978 297 460 i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y daith ac amseroedd. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Glo a dur

Fel y gwaeth rhannau helaeth o Gymru, treuliodd Wrecsam y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf yn cloddio am lo, glo i gynnal tân rhawd ddiwydiannol Prydain Fawr.

Ni fydd Wrecsam byth yn anghofio ei balchder yn ei gwreiddiau glofaol, ond bu’n rhaid talu am hynny.

Medi’r 22ain, 1934. Ffrwydrad anferthol yn nyfnderoedd pell y ddaear yng Ngwaith Glo Gresffordd. 266 wedi eu lladd, yn wŷr, tadau, meibion a brodyr. Nid yw Wrecsam erioed wedi eu hanghofio.

Roedd dur hefyd yn un o gonglfeini economi’r dref. Yn ei anterth yn ystod y 60au a dechrau’r 70au, byddai Gwaith Dur Brymbo yn goleuo’r gorwel efo’i fetel tawdd.

Efo mwy na 2,000 o weithwyr yn llafurio nos a dydd a rhai o’r dulliau cynhyrchu dur mwyaf cyfoes, roedd yr holl beth yn debyg i olygfa o’r Metropolis gan Fritz Lang ond ar lethrau bryn yng Nghymru.

Caeodd y safle ym 1990, ond os cerddi di i lawr Stryt yr Arglwydd yng nghanol tref Wrecsam mi weli di fwa cerfiedig wedi ei lunio ar ffurf glöwr a gweithiwr dur.

Mae Wrecsam wedi credu erioed yn y dyfodol ond rydym yn falch o’n gorffennol hefyd.
www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

O gwmpas hen eglwysi

Mae tŵr Eglwys San Silyn yn Wrecsam yn gan troedfedd a phymtheg ar hugain i’w ben uchaf ac yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Os oes digon o fynd ynot ti, dos ar ymweliad â’r tŵr i weld golygfeydd syfrdanol ar draws Wrecsam i gyd a thu hwnt. Ac wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Dos i weld rhai o’n heglwysi eraill ni.

Yn ogystal â bod yn lleoedd i weddïo a myfyrio, mae’r trysorau pensaernïol hyn yn dod â hanes ein trefi a’n pentrefi, sydd wedi bod yn ddigon cythryblus o bryd i’w gilydd, yn fyw eithriadol.

Dyna i ti eglwys y Santes Fair yn Rhiwabon. Y tu mewn iddi, mi weli di furlun o’r 15fed ganrif a bedyddfaen o’r 16th ganrif.

Y tu allan, mi weli di Borth Mynwenta ddurnol, rhan ohono wedi ei gerfio o bren derw lleol Wynnstay ac wedi ei gysegru’n Gofeb Ryfel i’r Plwyf ym 1920 (pan oedd Prydain yn dal i geisio dygymod â’r holl golli bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf).

Yn Eglwys St Chad yn Holt mae tyllau bwledi i’w gweld a ddigwyddodd mewn sgarmes rhwng y Pengryniaid a’r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Ac yng Nghadeirlan y Santes Fair yn Wrecsam, mae capel wedi ei gysegru i’r merthyr Richard Gwynne a gafodd ei grogi, ei dynnu a’r chwarteru ym 1584 – a’i wneud yn sant ym 1972.

Mae pymtheg o’n heglwysi wedi dod at ei gilydd i greu Rhwydwaith yr Eglwysi Agored. Mae gan bob un ei hanes ysgogol ei hun i’w adrodd ac mae pob un wedi ymrwymo i roi croeso i ymwelwyr.

Eglwys San Silyn, 01978 355808
Canolfan Croeso Wrecsam, 01978 292015
Rhwydwaith yr Eglwysi Agored, Rhwydwaith yr Eglwysi Agored