Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Llwybr Clawdd Wat

Gwrthglawdd 40 milltir yn rhedeg drwy ran ogleddol Gororau Cymru o Maesbury yn Sir Amwythig, gan fynd heibio i’r dwyrain o Groesoswallt ymlaen i Abaty Dinas Basing ger afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint yw Clawdd Wat. Yn gyffredinol mae’n rhedeg yn gyfochrog â Chlawdd Offa, weithiau o fewn ychydig lathenni ond byth yn fwy na thair milltir oddi wrtho.

Wedi bron i ddeng mlynedd o gynllunio, mae Llwybr Clawdd Wat sy’n 61 milltir/99 cilometr o hyd yn dilyn y gwrthglawdd mor agos â phosibl ac yn rhedeg drwy diroedd gwledig yn agos i ffin Cymru rhwng Llanymynech a Threffynnon. Mae ar agor bellach, ac wedi’i gyfeirbwyntio a chyhoeddwyd arweinlyfr iddo.

Daw’r llwybr i Wrecsam i’r de-orllewin o Owrtyn, gan groesi afon Dyfrdwy ar bont Owrtyn. Yna mae’r llwybr yn mynd ar draws gwlad i ymuno â’r clawdd i’r de o Riwabon. Mae’n mynd drwy ardal sy’n gyfoethog yn ei threftadaeth ddiwydiannol sy’n mynd yn ôl i’r chwyldro diwydiannol a chyn hynny. Yn syth i’r de o Wrecsam mae Neuadd Erddig sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yna mae’r llwybr yn mynd drwy dref Wrecsam gan fynd heibio bedd Elihu Yale, sylfaenydd Prifysgol Yale.

I’r gogledd o Wrecsam, aiff y llwybr yn ôl i dir cefn gwlad gan fynd drwy ddyffryn dwfn i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ac ymlaen i bentrefi Yr Hob a Chaergwrle yn Sir y Fflint.

Mae llawer o gysylltiadau gyda llwybrau eraill a hyrwyddir, ac mae taith gylchynol ar wahân sy’n archwilio caer fryniog oes yr haearn yn Rhiwabon.

'Mae’r llyfr "Wat's Dyke Way Heritage Trail" ar gael yn awr o’r Ganolfan Groeso.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llwybr Clawdd Wat.