Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Llwybr Clawdd Offa

Agorwyd Llwybr Clawdd Offa yn haf 1971, yn cysylltu Sedbury Cliffs ger Casgwent ar lannau aber Hafren gyda thref arfordirol Prestatyn ar lannau Môr Iwerddon.

Mae wedi’i enwi ar ôl, ac yn aml mae’n dilyn, y clawdd trawiadol a godwyd ar orchymyn Brenin Offa yn yr 8fed ganrif er mwyn gwahanu Teyrnas Mercia oddi wrth y teyrnasoedd cystadleuol yn y rhan sydd bellach yn Gymru.

Yn ei 177 milltir/285 cilometr mae’n mynd drwy ddim llai nag wyth sir wahanol ac yn croesi’r ffin rhwng Lloegr a Chymru 20 gwaith.  Mae’r llwybr yn archwilio’r Gororau tawel (fel y gelwir ardal y ffin) ac yn mynd drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thair Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

Er bod straeon bod pobl wedi cwblhau Llwybr Clawdd Offa mewn pedwar diwrnod, fel arfer cymer tua phythefnos ar gyfer y daith i gyd.  Wrth gwrs, mae llawer o bobl yn dewis cwblhau dim ond darnau bychan ar dripiau diwrnod neu gwblhau’r llwybr cyfan dros wythnosau, misoedd a blynyddoedd!  Mae lleoedd digonol i aros, bwyta ac yfed yng nghyffiniau’r llwybr ac mae cludiant cyhoeddus ar gael i fannau allweddol. 

Mae’n debyg bod gan y rhan yn Wrecsam yr adeilad mwyaf nodedig ar yr holl daith: Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Dyma’r draphont ddŵr hiraf ac uchaf ym Mhrydain.  Mae’n adeilad cofrestredig Gradd I ac ar hyn o bryd y mae’n disgwyl cadarnhad o statws Treftadaeth Byd.

Am fwy o fanylion ewch i wefan Llwybr Clawdd.