Fel rhan o'n hymroddiad i sicrhau y rhoddir pob cyfle i athletwyr ifainc dawnus symud ymlaen yn eu dewis chwaraeon, mae gan Adran Hamdden Wrecsam ddau gynllun a all helpu.
Nawdd Chwaraeon
Gall unigolion ifainc dawnus ymgeisio am grantiau unigol i'w helpu gyda'u treuliau.
Lawrlwytho'r Ffurflen Gais
MEINI PRAWF NAWDD CHWARAEON
- Dylai ceisiadau fod mewn perthynas ag unigolion yn hytrach na grwpiau.
- O ddewis, dylai ymgeiswyr fod dan 25 oed, mewn addysg neu hyfforddiant
llawn amser.
- Dylai ymgeiswyr fyw yn Sir Wrecsam neu dylai fod ganddynt gysylltiadau
â'r ardal.
- Dylai ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i fynd i ddigwyddiad a
drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam unwaith y flwyddyn a
thelir treuliau rhesymol am hyn.
- Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gysylltu ag unrhyw sefydliad lleol
neu genedlaethol mewn cysylltiad â chais.
- Dylai ymgeiswyr fod yn athletwyr o safon sirol, cenedlaethol neu
ryngwladol neu dylid ystyried eu bod â'r potensial i gyrraedd
y safonau hyn.
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon
Mae'r ffurflen gais ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon - Fersiwn Word 51Kb 
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon - Fersiwn PDF 95Kb 
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon - Testun Plaen 138Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Cerdyn Aur Gogledd Cymru
Lawrlwytho'r Ffurflen Gais
Mae Cerdyn Aur Gogledd Cymru yn rhoi cymorth i bobl chwaraeon talentog yng Ngogledd Cymru sy’n cynrychioli Cymru yn eu chwaraeon. Mae’r cynllun yn cynnig mynediad i gyfleusterau hamdden awdurdod lleol at ddibenion hyfforddi o fewn Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. Mae trefniadau arbennig hefyd yn bodoli mewn sefydliadau eraill gan gynnwys Colegau, Prifysgolion a Chlybiau Golff.
Beth yw manteision meddu ar Gerdyn Aur Gogledd Cymrun?
- Mynediad am ddim i gyfleusterau Canolfannau Hamdden chwe Cyngor Sir Gogledd Cymru.
- Mynediad am ddim i gyfleusterau hamdden Prifysgolion a Cholegau Gogledd Cymru.
- Pan fyddwch yn cynhyrchu rhaglen hyfforddi ddilys (wedi’i lofnodi gan Swyddog o’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol) byddwch yn cael mynediad i’r gweithgareddau canlynol -
- Nofio
- Ystafelloedd Ffitrwydd/Ystafelloedd Pwysau
- Dosbarthiadau Ffitrwydd
- Traciau Athletau Awyr Agored
- Gweithgaredd sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’ch chwaraeon (e.e. chwaraewr sboncen = Cyrtiau Sboncen)
- Mynediad am ddim i Ganolfan Athletau Dan Do Gogledd Cymru yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy i bobl sy’n meddu ar gerdyn aur ac sy’n cystadlu mewn athletau.
- Mynediad am ddim i rai Clybiau Golff i golffwyr elitaidd
- Gweithdai ffordd o fyw am ddim a gostyngiadau gan rai cyflenwyr offer a dillad.
Beth yw'r meini prawf cymhwyster?
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fyw yn un o chwe sir Gogledd Cymru (Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd neu Wrecsam).
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod cyfredol o SGWAD GENEDLAETHOL Corff Llywodraethu Chwaraeon Cymraeg. Mae’n rhaid cefnogi hyn drwy ddarparu copïau o lythyrau yn eich gwahodd i ymuno â’r sgwad.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad oes gan eu chwaraeon gystadlaethau rhyngwladol a/neu sy’n cystadlu fel unigolyn, fod wedi gorffen yn gyntaf, ail neu’n drydydd mewn pencampwriaeth Cymraeg, wedi’i drefnu gan gorff llywodraethu cenedlaethol y chwaraeon (O.N. Nid cystadlaethau’r Urdd na chystadlaethau ysgolion cenedlaethol) yn ystod y 12 mis diwethaf.
- Mae’n rhaid i golffwyr talentog fod yn aelod cyfredol o Sgwad Cenedlaethol Undeb Golff Cymru i gael mynediad i glybiau golff. (Rhaid iddynt hefyd fod yn aelod o unrhyw Glwb Golff yng Ngogledd Cymru).
- Mae’n rhaid bod corff llywodraethu eich chwaraeon yn cael ei gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Beth yw'r broses o wneud cais?
Gwiriwch y canllawiau hyn i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf.
- Llenwch y ffurflen gais atodol.
- Mae’n rhaid i’r ffurflen gais gael ei llofnodi gan y Swyddog Datblygu Rhanbarthol NEU gan Swyddog Datblygu Chwaraeon Penodol Corff Llywodraethu Cenedlaethol eich chwaraeon (NGB).
- Mae’n rhaid i chi anfon y canlynol efo’ch ffurflen gais –
- Copïau o lythyrau yn eich gwahodd i ymuno â sgwad NEU dystiolaeth gefnogol eraill o’ch cyraeddiadau.
- Dau lun pasport.
- Siec am £5.00. Sieciau’n daliadwy i’r sefydliad a enwir yn y pecyn.
- Dylai’r ffurflen gael ei hanfon at y Swyddog Datblygu Chwaraeon yn y cyfeiriad a ddarperir yn y pecyn.
- Bydd ceisiadau sydd heb gael eu llenwi’n iawn yn cael eu hanfon yn ôl atoch er mwyn i chi allu darparu’r wybodaeth i gyd.
- Gall gymryd hyd at un mis i brosesu cais.
- Os bydd y meini prawf perthnasol yn cael eu bodloni, bydd cerdyn yn cael ei gyhoeddi.
Beth yw'r telerau a'r amodau?
- Mae’n rhaid i ddeilydd y cerdyn gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cyfleusterau. Os bydd cerdyn yn cael ei gamddefnyddio, bydd yr awdurdod lleol yn cadw’r hawl i dynnu’r Cerdyn Aur Gogledd Cymru yn ôl.
- Ni ellir trosglwyddo’r cerdyn hwn.
- Mae’n rhaid i’r cerdyn aelodaeth gael ei gyflwyno i’r dderbynfa bob tro y bydd deilydd y cerdyn yn ei ddefnyddio, neu bydd rhaid i’r deilydd dalu’r ffi lawn.
- Dim ond at ddibenion hyfforddi y gellir defnyddio’r cerdyn. Ni ddylid defnyddio’r cerdyn ar gyfer canolfannau datblygu/rhagoriaeth, sgwadiau neu hyfforddiant sefydliad preifat i leihau’r costau i eraill neu ble mae’n rhaid talu hyfforddwr preifat.
- Dim ond un archeb ymlaen llaw y gellir ei wneud yr wythnos ar gyfer cyfleusterau y mae’n rhaid eu harchebu. Fel arall, gall deilydd y cerdyn archebu’r cyfleuster 24 awr ymlaen llaw neu alw draw gan obeithio bod y cyfleuster ar gael. Gellir defnyddio pob cyfleuster arall yn ystod yr oriau agor.
- Gall rhai cyfleusterau ofyn am hyd at 75% o gyfanswm cost cwrt (e.e. sboncen neu fadminton) gan bartner(iaid) hyfforddi deilydd y cerdyn aur.
- Mae’r cerdyn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. I wneud ail gais, bydd rhaid dychwelyd y cerdyn efo ffurflen werthuso wedi’i llenwi yn ogystal â ffurflen gais newydd.
Telerau ac Amodau i olffwyr
- Rhaid i olffwyr fod yn aelod o un o Glybiau Golff Gogledd Cymru.
- Mae’r Clwb Golff yn cadw’r hawl i gadarnhau eich bod yn aelod o un o Glybiau Golff Gogledd Cymru.
- Mae’n rhaid cysylltu efo Unigolyn Proffesiynol/Ysgrifennydd y Clwb Golff cyn ymweliad cyntaf deilydd y cerdyn.
- Mae’n rhaid cysylltu efo unigolyn Proffesiynol/Ysgrifennydd y clwb golff cyn pob ymweliad er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau ar gael.
- Mae’r Clwb Golff yn cadw’r hawl i wrthod mynediad os yw’r system yn cael ei chamddefnyddio neu os nad yw rheolau’r clwb yn cael eu parchu.
Cyfyngiadau
- Mae cyfyngiadau o ran oed yn berthnasol ar gyfer rhai cyfleusterau / gweithgareddau. Bydd rhaid i ddeiliaid cardiau gadarnhau hyn cyn iddynt ddefnyddio’r cyfleusterau.
- Bydd rhaid i ddeiliaid cardiau gael sesiwn gyflwyno ar gyfer rhai cyfleusterau e.e. Ystafelloedd Ffitrwydd. Efallai y bydd rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn.
- Efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad i rai dosbarthiadau ffitrwydd oherwydd mai nifer cyfyng o leoedd sydd ar gael, neu os yw’r dosbarthiadau hyn yn cael eu cynnal fel rhan o gwrs.
- Caniateir pob archeb ar ddisgresiwn rheolwr/aig y ganolfan
Mae’r awdurdod lleol yn cadw’r hawl i ymgynghori ag unrhyw sefydliad, naill ai’n lleol neu’n genedlaethol, mewn perthynas â’r cais hwn er mwyn asesu cynnydd a statws cystadlu cyfredol yr ymgeisydd.
Mae’r awdurdod lleol yn cadw’r hawl i wrthod clustnodi Cerdyn Aur Gogledd Cymru.
Ffurflen Gais Cerdyn Aur Gogledd Cymru
Ffurflen Gais Cerdyn Aur Gogledd Cymru - Fersiwn Word 513Kb 
Ffurflen Gais Cerdyn Aur Gogledd Cymru - Fersiwn PDF 179Kb 
Rhaglen Hyfforddi Athletwyr
Rhaglen Hyfforddi Athletwyr - Fersiwn Word 15Mb 
Rhaglen Hyfforddi Athletwyr - Fersiwn PDF 88Kb 
Ffurflen Werthuso
Ffurflen Werthuso - Fersiwn Word 15Mb 
Ffurflen Werthuso - Fersiwn PDF 176Kb 
Canllawiau
Canllawiau - Fersiwn Word 15Mb 
Canllawiau - Fersiwn PDF 134Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
yn ôl i'r brig