Y Map a Datganiad Diffiniol yw cofnod cyfreithiol y Cyngor o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Wrecsam ac fe’i paratowyd yn ôl darpariaethau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae’n dangos llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau, cilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd sy’n agored i holl draffig (BOAT). Mae’n dystiolaeth bendant o fodolaeth yr hawliau tramwy er y dylid sylwi y gall fod Hawliau Tramwy Cyhoeddus nad ydynt yn cael eu dangos ar y map a bod hawliadau’n cael eu gwneud byth a hefyd i ychwanegu llwybrau o’r fath.

Allwedd: ChilffyrddChilffyrdd, llwybrau ceffylaullwybrau ceffylau, llwybrau cyhoeddusllwybrau cyhoeddus. 

Nodyn pwysig - Mae'r wybodaeth am hawliau tramwy a ddangosir ar y map hwn, yn cael ei darparu er gwybodaeth yn unig a rhaid peidio â dibynnu arni at ddibenion cyfreithiol, statudol nac at unrhyw ddibenion ffurfiol eraill. Er mwyn gweld y cofnod cyfreithiol o'r hawliau tramwy, sef y Map Diffiniol a'r Datganiad, mae'n rhaid trefnu apwyntiad gyda'r adran Hawliau Tramwy. Er mwyn gwneud hynny byddwch cystal anfon e-bost rightsofway@wrexham.gov.uk