Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Taith Cerdded Tref Wrecsam : Eglwys Blwyf San Silyn

Llun hanes o Eglwys Blwyf San SilynEglwys Blwyf San Silyn yw tirnod mwyaf Wrecsam. Fe'i disgrifiwyd yn y 19 Ganrif fel un o Saith Rhyfeddod Cymru, mae, fel Pistyll Rhaeadr, yn rhyfeddod gweledol syfrdanol, ac nid gorliwiad lleol yw hyn.

Yr eglwys yw canolbwynt hanesyddol y dref. Mae patrwm y strydoedd yn dangos sut mae'r dref wedi tyfu allan o ffiniau'r fynwent, fel sy'n gyffredin mewn trefi canoloesol ar hyd a lled Prydain.

Roedd eglwys yn Wrecsam yn y 13 Ganrif, oherwydd bod Esgob Llanelwy a Madog ap Gruffudd, Tywysog Powys yn rhoi incwm o'r eglwysi i'r mynachod yng Nglyn y Groes, ger Llangollen. Yn 1330 cwympodd y twr. Yn ôl traddodiad, roedd y bobl leol yn credu mai Duw oedd yn eu cosbi am gynnal eu marchnad ar y Sul. Penderfynwyd byddai'n well cynnal eu marchnad ar ddydd Iau o hynny ymlaen. Er gwaethaf eu rhagofalon, difrodwyd llawer iawn o'r eglwys yn 1463 gan dân. Rhwng 1463 -1520, ailadeiladwyd yr eglwys, efallai gyda chymorth noddwr, Y Foneddiges Margaret Beaufort: a'r canlyniad oedd eglwys a oedd yn cynrychioli cyfuniad o gynllun eglwys canoloesol a phabyddol. Mae'n cofnodi diwedd blaguro'r ffydd grefyddol cyn tywallt gwaed ac ymdrechion deallol y Diwygiad.

Dylai unrhyw un sy'n ymweld â'r dref fynd i San Silyn. Er bod Oliver Cromwell wedi defnyddio'r eglwys fel stabl i geffylau ei fyddin, mae eraill wedi gwerthfawrogi ei harddwch. Camodd William Morris a Syr Giles Gilbert Scott i'r adwy i achub yr eglwys rhag cynlluniau clerigwyr llawn daioni y 19 Ganrif.

Llun o Eglwys Blwyf San Silyn

Mae'r eglwys yn fan addoli, ond mae'n lle croesawus hefyd. Cynhelir teithiau rheolaidd i fyny'r twr, yn enwedig yn ystod Dyddiau Agored Treftadaeth.

Cyn gadael y fynwent, ewch i ben gorllewinol yr eglwys a byddwch yn dod o hyd i fedd Elihu Yale, dyn lleol a chymwynaswr Prifysgol Yale, UDA. Edrychwch am ei feddargraff.

Gadewch trwy'r prif glwydi ar Stryt yr Eglwys a throwch i'r chwith ar hyd Rhes y Deml, gan anelu am i lawr yr allt, tuag at Gamfa'r Cwn.

Ymlaen i Gamfa'r Cwn