Cynllun Casglu Bin Gardd Gwyrdd a Bin Gwyrdd Ychwanegol
Nid yw Cyngor Wrecsam bellach yn caniatau cardboard rhychiog yn y biniau gardd gwyrdd.
Beth sy’n mynd yn fy Min Gwastraff Gardd Gwyrdd?
IE!
- Toriadau glaswellt
- Tociadau gwrychoedd a llwyni
- Blodau marw
- Chwyn
NA!
- Pridd
- Coed
- Brics
- Clymlys Siapan
- Ysgarthion anifeiliaid anwes ac anifeiliaid
- Unrhyw fath o gardbord
Mae gan breswylwyr hawl i 1 x bin gwastraff gardd gwyrdd 240L, sy'n cael ei wagio bob pythefnos. Ar gyfer unrhyw finiau gwastraff gardd gwyrdd ychwanegol, mae angen i drigolion gofrestru a thalu ffi flynyddol o £30.00 am gasglu o bob bin gwyrdd ychwanegol.
Darganfod eich diwrnod casglu.
Cynllun Casglu Bin Gwyrdd Ychwanegol
Mae gan breswylwyr hawl i 1 x bin gwastraff gardd gwyrdd 240L, sy'n cael ei wagio bob pythefnos. Ar gyfer unrhyw finiau gwastraff gardd gwyrdd ychwanegol, mae angen i drigolion gofrestru a thalu ffi flynyddol o £30.00 am gasglu o bob bin gwyrdd ychwanegol. Mae hwn yn bris penodedig am y flwyddyn o 1 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2019. Gallwch archebu’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond bydd y ffi flynyddol yr un fath.
Sut fydd y gwasanaeth yn gweithio?
Ar ôl talu, byddwch yn cael sticer drwy’r post. Gosodwch y sticer ar ben caead eich bin gwyrdd ychwanegol. Bydd y bin gwyrdd ychwanegol yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod; nid oes unrhyw newid i’ch diwrnod casglu arferol.
Cofiwch, gallwch fynd â'ch gwastraff gardd i’ch Canolfan Ailgylchu Nwyddau’r Cartref agosaf yn rhad ac am ddim neu, os oes gennych chi le, gallwch ei gompostio adref.