Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa

Dechreuwch rŵan

 

Wrth gofrestru i dderbyn nodiadau atgoffa byddwch yn derbyn neges e-bost wythnosol y diwrnod cyn eich diwrnod casglu - felly ni fydd raid i chi gofio pa fin sy’n mynd pa bryd.

Bydd y negeseuon hyn hefyd yn nodi unrhyw newidiadau rydym yn eu cynllunio yn yr amserlen gasglu.

Pa mor aml mae casgliadau?

Rydyn ni’n casglu gwastraff eich cartref bob yn ail wythnos. Mae cynwysyddion ailgylchu a gwastraff bwyd yn cael eu casglu pob wythnos – ar yr un diwrnod â diwrnod casglu eich bin.

Mae’ch bin olwynion du neu las yn cael ei wagio un wythnos ac, os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd, mae’ch bin olwynion gwyrdd yn cael ei wagio’r wythnos ganlynol (ac eithrio o fis Rhagfyr i fis Chwefror, pan fyddwn ni'n gwagio’ch bin gwyrdd unwaith y mis).

Faint o’r gloch ddylwn i roi’r bin allan?

Gwnewch yn siŵr bod eich bin a’ch cynhwysydd ailgylchu allan erbyn 7.30am ar eich diwrnod casglu.

Calendrau dyddiadau casglu

Nid ydym yn arddangos calendrau dyddiadau casglu ar ein gwefan mwyach. Fodd bynnag, gallwch wirio eich diwrnod bin i weld eich pedair wythnos nesaf ar gyfer casglu drwy deipio eich stryd neu god post. Nid ydych angen cyfrif i wirio eich diwrnod bin. Defnyddiwch y ddolen ar frig y dudalen hon i wirio eich diwrnod biniau, a chofrestrwch am nodiadau atgoffa i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau.

Tywydd Garw

Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, fel eira, mae’n bosibl y bydd tarfu ar gasgliadau neu hyd yn oed eu gohirio. Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i blog Newyddion y Cyngor, Facebook neu X (Twitter gynt) (dolen gyswllt allanol).

Gwyliau banc

Y Pasg, mis Mai a mis Awst

Mae’r diwrnodau casglu yr un fath ar wyliau banc.

Y Nadolig a Chalan

Bydd diwrnodau casglu’n newid yn ystod y cyfnod hwn. Cofiwch edrych ar eich calendr dyddiadau casglu ar gyfer casgliadau dros y Nadolig a Chalan. Dilynwch y ddolen ar frig y dudalen hon i wirio eich diwrnod bin a chofrestru ar gyfer negeseuon atgoffa a fydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau.