Fforwm Ieuenctid

Mae Fforwm Ieuenctid Wrecsam yn fforwm cynhwysol a chwbl cynrychiadol sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau ac ar y cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Mae gweithwyr y fforwm yn cefnogi fforymau ieuenctid a chynghorau ysgolion lleol ac yn rhoi llais i bobl ifanc sy'n byw, gweithio neu'n mynd i'r ysgol neu'r coleg ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae gweithgareddau a ymgymerir gan y fforwm ieuenctid yn cynnwys:

  • Ymweliadau â Chynulliad Cymru i godi materion ag aelodau'r Cynulliad
  • Cyfarfodydd rheolaidd
  • Cymorth grant i bobl ifanc unigol a grwpiau i bobl ifanc
  • Teithiau cyfnewid rhynglwadol
  • Cynadleddau ieuenctid
  • Rhaglenni gweithgareddau ar gyfer aelodau'r fforwm
  • Sioeau gwybodaeth teithiol
  • Rhaglenni hyfforddiant i bobl ifanc a llawer mwy

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn ymroddedig i roi llais i bobl ifanc, ac mae gweithgareddau'r fforwm ieuenctid wrth wraidd yr ymrwymiad hwn.

Cyswllt i Ffurflen Ymholiadau'r Fforwm Ieuenctid

yn ôl i'r brig