Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Maeryddiaeth - Regalia Dinesig

Cadwyn y Maer

Prynwyd hon gan N. S. Scotcher o Firmingham yn 1872 am gost o £193. Fe'i gwisgwyd am y tro cyntaf yng ngwledd y Maer yn 1873. Mae'r gadwyn wedi'i gwneud o bedwar ar hugain o ddolenni aur 18carat gwag ac mae enwau Meiri Wrecsam a'r flwyddyn yr oeddent yn eu swyddi wedi'u hysgythru ar bob un. Mae tlws siâp calon aur 18carat yn crogi oddi ar y gadwyn sydd â tharian herodrol enamel yn darlunio arfbais Bwrdeistref Wrecsam a'r arwyddair ‘Fear God, Honour the King’. Uwchben y darian ceir helmed gaeedig arian ac mae'r tlws wedi'i goroni gan ddraig Gymreig aur rygyngog sy'n dal tarian herodrol sy'n cynnwys symbol o Fenws wedi'i addurno arno. Wedi'u hysgythru ar gefn y tlws y mae'r geiriau ‘Presented to the corporation of Wrexham for the use of the Mayor for the time being by the present and several former members of the Town Counci, 1st March 1873’. Ar y drydedd ddolen o bopty'r tlws y mae tarianau herodrol goreurog yn crogi ac arnynt dangosir dreigiau coch champlevé rhemp a roddwyd yn rhodd gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i gydnabod y rhyddid a roddwyd i Fwrdeistref Wrecsam yn 1946.

Cadwyn y Faeres

Prynwyd hon yn 1902 ac fe'i gwnaethpwyd gan emydd o Wrecsam, A. W. Butt. Mae'r gadwyn aur 15carat yn 'bedair modfedd ar hugain o hyd, ac yn cynnwys dolenni a ffurfiwyd o rosynau Tuduraidd enamlog yma ac acw, â dolenni mwy yn cynnwys plu Tywysog Cymru ar arfbeisiau enamlog (glas a gwyn) ac arwyddion y Fwrdeistref, h.y. llewod a bugeilffyn, fel ar lwyddianau Wrecsam, sydd hefyd wedi'u henamlo mewn coch a gwyn yn y drefn honno, ac mae'r tabledi neu'r tarianau wedi'u coroni gan goron furol; mae'r dolenni hyn wedi'u gosod bob yn ail â llythren gyntaf enw'r Fwrdeistref, ac mae'r ‘W’ yn batrwm hynafol. Mae'r ddolen ganolog yn dangos seiffr brenhinol ‘E.R. VIII’ wedi'i goroni gan y goron Frenhinol a'i gynnal gan lewod Lloegr (passant guardant mewn aur)'. Oddi ar y ddolen hon y mae tlws yn crogi sy'n cynnwys llun bach o'r frenhines Alexander o fewn cylch o ddiemwntau wedi'i goroni hefyd gan y goron Frenhinol a phâr o deyrnwialennau croesymgroes - y cyfan yn ffurfio bathodyn coroni. Caiff y bathodyn ei gynnal a'i ddal yn ei le gan gadwyn lai, a elwir yn batrwm Tywysog Cymru, sydd ynghlwm wrth ddolenni'r gadwyn fwy mewn pedair coronbleth, gyda phedwar nobyn aur bach ar bob ochr o'r bathodyn. Mae'r bathodyn coroni a'r gadwyn goronblethau hefyd yn cynnal tlws y Gorfforaeth sy'n cynnwys Arfbais y Fwrdeistref ar darian Louis XVI yn ei ganol, sy'n gorffwys ar ben gafr, wedi'i addurno'n gywir. Uwchben y darian, ar dorch o'r lliwiau (gwyn a choch) y mae arflun y Fwrdeistref, gyda'r arwyddair ‘Fear God, Honour the King’ wedi'i gordeddu ar ruban enamlog oddi tano. Ar yr ochr dde, ceir cleddyf cyfiawnder â chenhinen wedi'i gosod mewn emralltau, tra ar yr ochr chwith ceir copi o'r byrllysg dinesig a changen o lawryf mewn emralltau. Mae'r cyfan yn tarddu o ben yr afr Gymreig ar y gwaelod a chaiff ei gau gan fframwaith o sgroliau.

Cadwyn y Dirprwy Faer

Yn wreiddiol, hon oedd y gadwyn ar gyfer Cadeirydd CDGW. Gwnaethpwyd y golaréd arian goreurog oddeutu 1950 ar ffurf un ar ddeg ar hugain o blaciau sydd fel grisiau petryal ac mae enwau a dyddiadau Cadeiryddion CDGW wedi'u hysgythru arnynt. Hefyd ceir un ar bymtheg o blaciau agored o ddalennau cwartr a loseni mewnol yn cau'r llythyren fawr llinell dwbl 'W'. Ar y brig ceir tarian herodrol gyda chennin pedr ar dir gwyrdd wedi'i goroni gan goron gastellog. Yn crogi oddi ar y darian hon y mae medaliwn arian goreurog gydag arflun ar dir gwyrdd basse-taille yn darlunio dau ben tarw ar ffurf caboshe, dau losen a bugeilffyn wedi croesi, y cyfan wedi'u coroni gan helmed. Mae'r dalwyr yn ddyluniadau blodeuog o enamel gwyrdd a melyn gyda draig goch rhygyngog yn dal tarian herodrol yn cynrychioli'r diwydiant briciau. Ar waelod y tlws ceir sgrôl yn cynnwys yr arwyddair ‘Sum Cuique Tribvere’ mewn enamel coch. Ar y cefn, ceir y geiriau ‘Presented by Iorwerth Williams, Esquire’ wedi'u harysgrifio.

Tlws Crog y Dirprwy Faeres

Tlws crog fodern wedi'i ddilysnodi a'i wneud o arian goreurog yn cynnwys arfbais CBWM. Gwnaethpwyd hwn yn 1983 gan Thomas Fattorini o Firmingham i gymryd lle'r tlws crog flaenorol a aeth ar goll. Cyflwynwyd yr un gwreiddiol i CBWM gan gangen Wrecsam o NALGO yn 1976.

The Mac Y Byrllysg

Yn 1866, cyflwynwyd byrllysg arian mawr i CBW gan Joseph Clark, y Maer ar y pryd. Gwelwyd hwn fel symbol o awdurdod y Cyngor ac mae'n mesur 5 troedfedd 8 modfedd. Fe'i gwnaethpwyd yn Llundain ac mae ganddo ffon eboni â phen arian sydd wedi'i ysgythru â dail, cennin, mygydau geifr, arfbais Bwrdeistref Wrecsam a thelyn Gymreig. Coronir hwn gan ddraig sy'n gafael mewn tarian. Mae'r addurniadau ar ganol ac ar waelod y ffon hefyd yn cynnwys cennin a mygydau geifr.

Ers 1866, pan grëwyd swydd Rhingyll y Byrllysg mae'r byrllysg wedi cael ei gario o flaen y Maer ym mhob digwyddiad dinesig. Yr unigolyn cyntaf yn y swydd hon oedd David Higgins (Arolygwr Poendodau'r Fwrdeistref, roedd yn byw ym Mwthyn y Lladd-dy, Ffordd Holt yn 1881), a oedd yn dal i fod yn y swydd yn 1885 pan wnaeth gais ffurfiol am ffurfwisg newydd. Darparwyd dyfynbrisiau er mwyn newid y ffurfwisg eto ym Mawrth 1951 pan amcangyfrifwyd y byddai'r pris rhwng £38 a £41. Ers y 1970au mae rôl y Byrllysgwr wedi bod yn un o'r dyletswyddau a gyflawnir gan yrrwr y Maer.

* Dyfyniadau o'r ‘Encyclopaedia of Wrexham’ gan W. Alister Williams