Datrys Problemau Pibelli
Mae’r Cyngor wedi bod yn gosod bwyleri cyddwyso hynod o effeithlon ers 2002. Rydym yn eu gosod mewn gwahanol fathau o eiddo ac mewn lleoedd gwahanol. Yn anffodus, nid oes modd pob tro i ni osod y pibellau gollwng ar gyfer y cyddwysiad yn fewnol.
Pan mae angen gosod pibellau gollwng y cyddwysiad ar y tu allan, mae’n gallu rhewi pan yw’r tywydd yn eithriadol o oer.
Pibellau wedi rhewi o fwyleri cyddwyso
Yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn, byddwn yn cael ymholiadau o dro i dro gan gwsmeriaid nad yw eu bwyleri i’w gweld yn gweithio.
Weithiau mae hyn oherwydd bod y bibell sy’n gollwng y cyddwysiad wedi rhewi sy’n rhwystro’r bwyler rhag gweithio.
Bydd yr wybodaeth yma yn gymorth i chi weld a oes rhywbeth fel hyn yn bod ar eich bwyler a’r hyn y dylid ei wneud amdano.
Sut allaf weld a yw daliwr cyddwysiad / pibell ollwng y bwyler wedi rhewi?
Cam 1 Fe allai daliwr cyddwysiad / pibell ollwng eich bwyler fod wedi rhewi os yw pob un o’r 3 datganiad yma yn gywir:
- mae eich bwyler yn fwyler cyddwyso
- mae’r tymheredd tu allan yn is na rhewi neu wedi bod
- mae eich bwyler un ai’n dangos cod diffyg neu’n methu â thanio
Gwelwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr bob tro os ydynt gennych chi
Cam 2 Os yw pob un o’r 3 datganiad uwchben yn wir, y peth nesaf i’w wneud yw ceisio ailosod eich bwyler, os oes botwm ailosod ar eich bwyler a’ch bod yn deall sut mae ailosod y bwyler.
Gallwch wneud hyn trwy ddal y botwm ailosod i mewn (mae hwn i’w weld ar banel rheoli’r bwyler). Pan fyddwch chi wedi rhyddhau’r botwm dylech aros 2 neu 3 munud i weld a fydd y bwyler yn tanio eto.
Cam 3 Os na fydd y bwyler yn tanio eto ac mae’n gwneud sŵn byrlymu, yna gallwch fod fwy neu lai’n sicr fod eich pibellau wedi rhewi. Os na fedrwch chi glywed sŵn byrlymu, fe ddylech chi fwrw golwg ar eich pibell gyddwysiad beth bynnag.
Cam 4 Bydd y bibell gyddwysiad yn bibell blastig (du, gwyn neu lwyd), sy’n dod allan o waelod eich bwyler. Fe allai’r pibellau hyn fod wedi eu gosod o dan fyrddau eich llawr. Y brif broblem yw lleoliad y bibell hon pan ddaw i ben ar y tu allan ac i mewn i’r draen, y simnai garthion neu’r gyli.
Sut mae dadmer y bibell gyddwysiad?
Dylech alw rhif cysylltu allan o oriau’r Cyngor, a fydd wedyn yn galw’r contractwr sy’n trin a chynnal a chadw nwy i’r Cyngor. Bydd y contractwr yn dod cyn gynted ag y bo modd i geisio trwsio’r diffyg.
Os na fedrwch chi aros i’r contractwr gyrraedd yna fe allech chi wneud y pethau canlynol. Fodd bynnag, fe ddylech chi fod yn arbennig o ofalus bob amser wrth geisio dod o hyd i bibell gyddwysiad a’i dadmer.
- Dim ond os yw ar lefel y ddaear ac yn hawdd i chi ei chyrraedd y dylech chi geisio dadmer pibell gyddwysiad. Ddylech chi ddim, mewn unrhyw amgylchiadau, ceisio dadmer pibell gyddwysiad sydd wedi ei gosod yn uchel, heb gymorth peiriannydd wedi ei hyfforddi’n broffesiynol.
- Byddai potel ddŵr poeth neu rwymyn gwres (fel y rhai sy’n twymo cyhyrau anghyfforddus) yn fodd addas a diogel i ddadmer y bibell gyddwysiad. Daliwch y botel ddŵr poeth neu’r rhwymyn gwres o amgylch y bibell gyddwysiad er mwyn ei dadmer.
- Pan fydd wedi dadmer, mae’n rhaid ailosod y bwyler. Gallwch wneud hyn trwy ddal y botwm ailosod ac aros i’r bwyler danio eto.
Camau syml i leihau’r perygl o rwygo’r pibellau
Yn ystod tywydd oer, mae anghyfleustra a difrod o ganlyniad i bibellau’n rhwygo yn gallu digwydd yn hawdd. Fe allai’r gwaith trwsio ar ei ben ei hun gostio miloedd o bunnoedd. Fodd bynnag, mae camau gofal digon syml yn gallu bod yn fodd i leihau’r perygl.
Gwell rhwystro na thrwsio
Dyma gamau syml a fydd yn gwneud llawer i leihau’r perygl o rwygo’r pibellau yn y cartref.
Cadw pibellau rhag rhewi a rhwygo
Mae’r rhain yn medru helpu i gadw eich pibellau rhag rhewi:
- cadw’r cartref mor gynnes ag y gallwch chi hyd yn oed os ydych chi allan
- lapiwch y pibellau mewn lleoedd agored neu mewn drafft
- cofiwch gau’r tapiau yn iawn, yn enwedig cyn noswylio
- gwnewch eich hun yn gyfarwydd â’ch system ddŵr poeth rŵan a dod o hyd i’r prif dap sy’n cau’r cyflenwad dŵr i’ch eiddo chi
Pibellau wedi rhewi
Os bydd pibell yn rhewi:
- rhowch boteli dŵr poeth neu gadach trwchus wedi ei wlychu mewn dŵr poeth tros y bibell sydd wedi rhewi. Wrth ddadmer, dechreuwch y pen agosaf at y tap i’r bibell a gweithio oddi wrtho
- peidiwch byth â defnyddio fflam agored
Pibellau wedi rhwygo
Os bydd pibell yn rhwygo:
- caewch y prif dap i’r adeilad
- os nad oes modd cau llif y dŵr, agorwch bob tap dŵr oer i ddraenio’r system
- os yw’r bibell sydd wedi rhwygo yn dod o’r tanc cadw dŵr, caewch y falf gau yn y tanc, agorwch bob tap dŵr poeth i ddraenio’r system, gadewch i’r tân losgi hyd ddiffodd neu ddiffodd y gwres hyd nes bydd plymwr wedi rhoi sylw i’r bibell
Rhoi gwybod am broblem
Os ydych yn denant i’r Adran Dai ac angen gwaith trwsio brys arnoch chi, dylech alw’r rhif cysylltu allan o oriau.