Mae cyfleuster chwilio Mynegai'r Mynwentydd yn gadael i chi chwilio trwy gofnodion y claddedigaethau ym mynwent Wrecsam rhwng 1876 ac 2012.

Rhowch gymaint ag sy'n bosibl o wybodaeth, er enghraifft cyfenw neu enw(au) cyntaf, a chliciwch y botwm 'Chwilio'.

Mae'r cyfleuster chwilio'n dychwelyd manylion claddedigaethau ym mhrif fynwent awdurdod Wrecsam ar gyfer blynyddoedd rhwng 1876 (pan agorodd y fynwent) ac 2012. Cymerir y manylion oddi ar wefan swyddfa'r fynwent a ddiweddarir yn barhaus pan ddarganfyddir gwallau neu esgeulustra. Dylai'r defnyddwyr wirio manylion y canlyniadau chwilio gyda swyddfa'r fynwent i sicrhau bod y wybodaeth yn ddiweddar.

Dylai'r defnyddwyr nodi bod y cyfleuster chwilio yn sensitif i fewnbwn, h.y. bydd yn dychwelyd cofnodion sy'n cydweddu'n union â'r sillafu a roddwyd gan y defnyddiwr. Fodd bynnag, nid yw'r cyfleuster yn sensitif i faint y llythrennau a gellir rhoi cynigion mewn llythrennau bach neu fawr.

Mae'r manylion a ddychwelir yn cynnwys:

  • Rhif y gladdedigaeth - cyfeirnod cronolegol a roddir ar gyfer pob claddedigaeth ers i'r fynwent agor yn 1876
  • Cyfenw’r ymadawedig
  • Enwau cyntaf yr ymadawedig
  • Oedran yr ymadawedig ar adeg ei farwolaeth
  • Man lle bu farw
  • Dyddiad yr angladd
  • Rhif llain y bedd lle claddwyd yr ymadawedig*
  • Adran claddu y mae'r bedd ynddo**
  • Blwyddyn yr angladd

Nodiadau

* Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod rhai rhifau'n cael eu dyblygu ar draws y fynwent. Gwiriwch gyda swyddfa'r fynwent i gadarnhau lleoliad a rhif y bedd cyn ceisio darganfod y bedd ar y safle.

**Nid oedd y gronfa ddata wreiddiol yn cynnwys manylion yr adran gladdu. Ychwanegir y wybodaeth hon faes o law.