Mae ein “Rhwydwaith 360” yn gyfle rhad ac am ddim i gymryd rhan mewn grŵp hamddenol, cyfeillgar er mwyn:

  • Cwrdd â phobl fusnes proffesiynol lleol a ffurfio perthnasau
  • Hybu proffil eich busnes ac ymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau / nwyddau
  • Gwrando ar gyflwyniadau ynglŷn ag amrywiaeth helaeth o bynciau busnes a fydd yn rhoi ichi syniadau newydd, cymhelliant a mwy o wybodaeth i ddatblygu’ch busnes
  • Elwa ar gynigion arbennig sydd ar gael ymhob cyfarfod.

Gall rhwydweithio helpu i sicrhau bod eich busnes yn datblygu ac yn llwyddo yn y dyfodol.

Mae ein cyfarfodydd bellach yn rhad ac am ddim, p’un a ydych am alw heibio unwaith neu ymaelodi am y flwyddyn.

Dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfodydd

Fel rheol cynhelir y cyfarfodydd ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 5pm a 6:45pm yn Ystafell yr Atriwm (trydydd llawr), Tŵr Rhydfudr, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9XT. Mae lle i barcio am ddim. 

Dyddiadau Cyfarfodydd Rhwydwaith 360 2024

  • Ionawr 9
  • Chwefror 13
  • Mawrth 12
  • Ebrill 9
  • Mai 14
  • Mehefin 11
  • Gorffennaf 9
  • Medi 10
  • Hydref 8
  • Tachwedd 12
  • Rhagfyr 10

Os hoffech chi gael eich atgoffa bob mis o ddyddiad y cyfarfod nesaf, mae croeso ichi ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’).

Rhaglen y cyfarfod

  • 5pm – Croeso
  • 5.20pm – Croesawu a chyflwyno cyfranogwyr
  • 5.40pm – Cyflwyniad y siaradwr gwadd 
  • 6pm – Rhwydweithio Anffurfiol 
  • 6.45pm – Diwedd

Cofrestrwch ar gyfer cyfarfod

Dechreuwch rŵan

 

Pwy sy’n mynd i gyfarfodydd Rhwydwaith 360?

Mae ein tîm Busnes a Buddsoddi’n derbyn miloedd o ymholiadau bob blwyddyn gan fusnesau sy’n amrywio o gwmnïau bach newydd i gwmnïau mawr sydd wedi hen sefydlu. Gallwn roi gwybod i’r cysylltiadau hyn yn uniongyrchol am y grŵp Rhwydwaith 360 ac felly fel arfer mae criw da’n dod i’n cyfarfodydd, gan gynnwys amrywiaeth o aelodau achlysurol a blynyddol sy’n newid o hyd. 

Mae’r rhan helaeth o’r bobl a ddaw i’n cyfarfodydd yn cynrychioli busnesau bach sy’n darparu gwasanaethau proffesiynol. 

Yn wahanol i grwpiau rhwydweithio eraill mae ein cyfarfodydd ni’n agored i bob busnes heb gyfyngu ar nifer y cynrychiolwyr o bob proffesiwn / sector.

Os hoffech chi ddysgu mwy am y mathau o fusnesau sydd wedi bod yn mynychu yn ddiweddar, yn ogystal ag aelodau blynyddol, llenwch ein ffurflen ymholi.

Pam dod i gyfarfod Rhwydwaith 360?

Yn ein cyfarfodydd gallwch greu cysylltiadau newydd a datblygu perthnasoedd gwaith â busnesau eraill sy’n mynychu. 

Cewch gyfle i hybu ymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau / nwyddau a chwrdd â chwmnïau a fedrai helpu’ch busnes gyda chefnogaeth neu wasanaethau.

Ymhob cyfarfod gallech elwa ar gynigion, bargeinion neu gymhellion sydd ar gael gan fusnesau eraill. Byddwch hefyd yn medru hyrwyddo’ch cynigion neu fargeinion eich hun.   

Cewch gyfle i siarad â busnesau y gallech weithio â hwy i ddarparu amrywiaeth fwy helaeth o wasanaethau i gleientiaid, er budd pawb. 

Mae’n bwysig cofio nad yw rhwydweithio’n gweithio un ffordd. Ar ôl cwblhau’r gwiriadau priodol gallech argymell un neu ddau o’ch cleientiaid i fusnesau eraill mewn cyfarfod Rhwydwaith 360 os credwch y bydd y gwasanaeth/cynnyrch o fudd iddynt. Gall hyn ychwanegu gwerth at eich perthynas â’ch cleient. 

Bydd cydweithio a chefnogi busnesau’ch gilydd yn helpu i gadw busnesau yn yr ardal a chryfhau’r economi leol.

Dewisiadau aelodaeth

Mae gennym ddau ddewis:

Aelodaeth achlysurol

Defnyddiwch ein ffurflen archebu ar-lein i gadw lle am ddim mewn unrhyw gyfarfod yr hoffech chi fynd iddo. 

Dechreuwch rŵan

 

Aelodaeth flynyddol

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp Rhwydwaith 360 fel aelod blynyddol a’ch bod yn barod i ymrwymo i fynychu cyfarfodydd mor aml ag y gallwch, llenwch ein ffurflen aelodaeth flynyddol

Mae yno amryw fanteision o fod yn aelod o grŵp Rhwydwaith 360. 

Trefnu cyfarfodydd yn gynt

Hyd yn oed fel aelod blynyddol, bydd yn rhaid i chi gadw lle o flaen llaw cyn dod i gyfarfod, fel y gallwn baratoi’n well ar gyfer y nifer a ddisgwylir. Gan y bydd eich manylion ar gof a chadw gennym, y cyfan y bydd angen ei wneud fydd cadarnhau eich enw, enw’r busnes a’r cyfeiriad e-bost wrth gadw’ch lle ar gyfer cyfarfod.

Ymddangos yng nghyfeiriadur ein haelodau

Bydd enw’ch busnes, manylion cyswllt a disgrifiad o’r busnes (fel rydych wedi’i roi ar eich ffurflen gais) yn ymddangos yn ein cyfeiriadur aelodau. 

Mae’r gwahoddiad i bob cyfarfod, a anfonir at ein miloedd o danysgrifwyr mewn busnesau lleol) yn cynnwys dolen i’n cyfeiriadur aelodau blynyddol. 

Hybu ymwybyddiaeth o’ch busnes

Cyhyd â’ch bod chi wedi cadw lle mewn cyfarfod o leiaf diwrnod o flaen llaw, bydd eich manylion yn cael eu cynnwys ar ein cofrestr ymhob pecyn cyfarfod. Bydd y gofrestr yn cynnwys:

  • eich enw chi ac enw’ch busnes
  • y math o wasanaeth / nwyddau a gynigiwch
  • manylion cyswllt eich busnes.

Gallwch hefyd ddod â chardiau busnes a deunydd marchnata gyda chi i’w rannu â phobl eraill yn y cyfarfod. 

Gostyngiadau, treialon a chymhellion

Rydym yn annog ein haelodau blynyddol ac achlysurol i gynnig gostyngiadau neu fargeinion cychwynnol/arbennig ymhob cyfarfod, neu gynlluniau rhannu elw, i gefnogi busnesau lleol eraill.