Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Cysylltiadau

Darperir y rhwydwaith telathrebiadau yn Wrecsam dros asgwrn cefn y ffibr optig diweddaraf, sy'n gallu trosglwyddo ystod cynhwysedd uchel, lle mae'n ofynnol gan fuddsoddwr. Mae'r holl dechnolegau cyfathrebu mwyaf datblygedig ar gael, gan gynnwys gwasanaethau megis ISDN, Megastream, SMDS, Cellstream ATM, Frame Relay, gwasanaethau Rhyngrwyd a fideo. Bydd y gallu hwn yn galluogi buddsoddwyr i uchafu effeithlonrwydd eu busnes drwy'r fantais gystadleuol a ddarperir gan y dechnoleg cyfathrebiadau flaenaf ar gael yn Wrecsam.

Mae'r rhwydwaith yn defnyddio technoleg SDH, gan ddarparu gwasanaeth hydwyth iawn i gwmnau, sy'n hanfodol i lwyddiant busnes modern. Yn ychwanegol i'r buddion presennol hyn, mae BT yn gallu cynllunio ac adeiladu rhwydwaith i fanylion unigol cwmni, gan sicrhau y gellir addasu unrhyw lefel o ofynion ystod neu hydwythedd. Bydd yr agwedd hon o'r gwasanaeth cyfathrebiadau ar gael yn Wrecsam yn dod yn hyd yn oed mwy hanfodol yn y dyfodol, wrth i dechnolegau cydgyfeiriol ail-siapio'r amgylchedd busnes.

Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Comisiwn Teledu Annibynnol wedi gwobrwyo darparwr annibynnol chytundeb ceblu ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal weddol fawr o Ogledd Orllewin Lloegr. Lleolir pencadlys gweithredol y cwmni yn Wrecsam.

Mae Scottish Telecom wedi gosod ceblau cyn belled ffiniau Wrecsam ac, ar l dechrau trafodaethau gyda Chyfarwyddwr Personl Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, maent yn barod i symud i'r ardal. Mae'r cwmni'n awyddus, nid yn unig i wasanaethu ardal Wrecsam, ond i ddefnyddio Wrecsam fel prif ganolfan ar gyfer ei waith yn yr ardal ehangach.

Canolfannau Galw

Gan edrych ar y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill fel lleoliadau Canolfannau Galw mae'n werth ystyried effaith Dadleoliad Marchnad.

O fewn marchnadfa Ewrop, mae'r DU yn cynrychioli tua 18% o gyfanswm y boblogaeth. Mae gan wledydd eraill megis yr Iseldiroedd (5%), Gweriniaeth Iwerddon (1%) a Gwlad Belg (3%) boblogaeth lawer llai. Golyga hyn os gweithredir Canolfan Galw o'r DU, bydd marchnad gartref o 18% a marchnad dramor o 78% yn effeithiol. Mae'r un fformiwla yn berthnasol i'r Iwerddon yn golygu y byddai gan Ganolfan Galw yn yr Iwerddon farchnad gartref 1% a marchnad dramor 99%.

Mae'r rhan fwyaf o Ganolfannau Galw yn cynnig rhif mynediad di-doll i'w cwsmeriaid. Mae'r gost i berchennog Canolfan Galw o wasanaeth rhyngwladol di-doll yn llawer mwy na chost gwasanaeth di-doll cenedlaethol. Bydd pob galwad o 'dramor' yn denu prisiau di-doll rhyngwladol felly byddai Canolfan Galw wedi ei lleoli yn Iwerddon, Gwlad Belg neu'r Iseldiroedd llawer mwy o alwadau rhyngwladol na chyfwerth gweithrediad DU, gan wneud cost y gwasanaeth di-doll yn llawer mwy.