Cynllunio Brys

Sut y gallaf gysylltu â’r Tîm Cynllunio Brys?

Gallwch gysylltu â’r Tîm Cynllunio Brys ar:

Ffôn: 01978 298825/6/7/8
Ffôn (out of hours): 01978 264420

Neu e-bost: emergencyplanning@wrexham.gov.uk

Cyfeiriad cyswllt y Tîm yw:
Y Tîm Cynllunio Brys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Pennaeth Lles Cymunedol a Datblygu
Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LG


Argyfwng Llifogydd

Pan fo perygl o lifogydd ac mewn sefyllfaoedd brys, ffoniwch y Gwasanaethau Brys 999.

Llifogydd ar y briffordd a thrwy Beryglon Llifogydd Lleol

Adrodd am lifogydd ar ffyrdd cyhoeddus, gwterydd wedi cau, gratiau, draeniau priffyrdd neu ffosydd ar ochr y ffordd, ffoniwch linell gymorth Strydoedd o Fri ar 01978 298989.

Mae gan yr Awdurdod Lleol bwerau i orfodi perchnogion tir, sydd â thir ger y briffordd, i gynnal gwaith draenio rhesymol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991.

Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldebau dros reoli perygl llifogydd lleol sy’n deillio o lif dwr yr wyneb, cwrs dwr cyffredin neu ddŵr daear o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae’r rhain wedi eu cysylltu â’r pwerau sydd ar gael i’r Awdurdod Lleol i orfodi perchnogion tir, sydd â thir ger y briffordd, i gynnal gwaith draenio rhesymol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991.

Mae gan Gynllunio Brys ddwy rôl fel Cynllunwyr Brys a rôl oruchwylio strategol ar gyfer rheolaeth yr Awdurdod Lleol dros y Perygl o Lifogydd Lleol. Noder, dim ond mewn achosion brys y mae’r gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael:

Ffôn: 01978 298825/6/7/8 neu e-bost: emergencyplanning@wrexham.gov.uk

Tîm Cynllunio Brys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lles a Datblygu Cymunedol
Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LG

Prif Afonydd

Mae llifogydd prif afonydd yn rhan o gyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ffôn: 08708 506506
E-bost: enquiries@environment-agency.gov.uk
Gwefan: www.environment-agency.gov.uk

Rhif ffôn llinell llifogydd 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr) Llais Teipio 0845 602 6340.

Draenio Tir a Dyfrffosydd

Mae dyfrffosydd (e.e. nentydd neu ffosydd), ar wahân i brif afonydd, yn gyfrifoldeb i berchennog ‘glannau afon’ Chi yw perchennog glannau’r afon os yw eich eiddo neu eich tir ar neu yn agos iawn at ddyfrffos. Mae gan berchnogion glannau afon ddyletswydd i gadw dyfrffos yn glir o unrhyw beth all rwystro’r llif a gallwn roi rhybudd cyfreithiol i berchnogion glannau afon i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau. Mae rhai dyfrffosydd “strategol” y gwyddys eu bod yn achosi risg uchel o lifogydd i eiddo os cant eu rhwystro, yn cael eu gwirio a’u cynnal a’u cadw gan ein contractwr yn rheolaidd.

Prif Gyflenwad Dŵr

Y cwmni dŵr sy'n gyfrifol am y cyflenwad dwr a’r pibellau hyd at ac yn cynnwys y stopfalf dŵr ar y ffin a’ch eiddo. Y stopfalf yw’r falf a ddefnyddir er mwyn torri’r cyflenwad dŵr i’ch eiddo. Rydych chi'n gyfrifol am waith pibell yn eich tŷ a phibellau dŵr o’ch tŷ at y stopfalf ar y terfyn.

Draeniau a Charthffosiaeth

Mae draeniau preifat yn cludo carthion drewllyd (gwastraff toiledau, ystafell ymolchi a cheginau) a dŵr yr wyneb (dŵr glaw) o un eiddo preifat. Mae’r cyfrifoldeb am waith cynnal a chadw fel arfer yn disgyn ar ysgwyddau’r perchennog.

Mae carthffosiaeth breifat yn cludo carthion drewllyd ac/neu ddŵr wyneb sy’n llifo o fwy nag un eiddo. Maen nhw’n gyfrifoldeb Dwr Cymru neu Severn Trent os ydynt wedi eu cysylltu â’r brif garthffosiaeth gyhoeddus. Mae rhai grwpiau o eiddo wedi eu cysylltu â gorsaf bwmpio breifat / gwaith trin / ffos gerrig, sy’n eiddo i berchnogion neu breswylwyr yr eiddo sydd wedi eu cysylltu ag ef, a dylent hwy ei gynnal a’i gadw.

Y garthffosiaeth gyhoeddus (draeniau ochrol) yw’r rhan o ddraen eich eiddo sydd y tu allan i derfyn yr eiddo. Maen nhw’n casglu carthion drewllyd ac/neu ddŵr wyneb sy’n rhedeg o ddraeniau preifat ac yn cysylltu â charthffos gyhoeddus, neu’n uniongyrchol a charthffos gyhoeddus. Eich cwmni dŵr a charthffosiaeth leol (Dŵr Cymru) sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a thrwsio’r pibellau hyn. Dylid adrodd am unrhyw rwystr i garthffos neu lifogydd mewn carthffos yn uniongyrchol wrth Ddŵr Cymru neu Severn Trent.

Llifogydd Awdurdod Rheoli Risg Manylion Cyswllt

Prif Awdurdod Llifogydd Lleol
(Gan gynnwys Awdurdod Priffyrdd ar gyfer ffyrdd lleol)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

Ffôn: 01978 292000
Minicom: 01978 292067
E-bost: webmaster@wrexham.gov.uk
Gwefan: www.wrexham.gov.uk

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Swyddfa Ardal y Gogledd
Ffordd Penlan
Parc Menai
Bangor
Gwynedd
LL57 4DE

Ffôn: 08708 506506
E-bost: enquiries@environment-agency.gov.uk
Gwefan: www.environment-agency.gov.uk
Rhif ffôn llinell llifogydd 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr)
Llais Teipio: 0845 602 6340

Dyffryn Dyfrdwy

Dyffryn Dyfrdwy
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam
LL14 4EH

Rhif Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01978 833200
Ffacs: 01978 846888
Llinell gollwng dŵr: 0800 298 7112
Brys: 01978 846946
E-bost: contact@deevalleygroup.com
Gwefan: Dee Valley Group

Severn Trent

Severn Trent Water Ltd
Customer Relations
Sherbourne House
St Martin’s Road
Finham
Coventry
CV3 6SD

Ffôn: 024 7771 5000
Gwefan: www.stwater.co.uk

Dŵr Cymru/Welsh Water

Dŵr Cymru - Welsh Water
Ffordd Pentwyn
Nelson
Treharris
CF46 6LY

Rhif ffôn y brif swyddfa: 01443 452300
Gwasanaethau Cwsmeriaid: 0800 052 0140
Gwefan: www.dwrcymru.co.uk

Amddiffyn eich hun a’ch eiddo

Dogfen werthfawr arall i breswylwyr gyfeirio ati yw Cyfeirlyfr Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â pha gynnyrch sydd ar gael i helpu i amddiffyn cartrefi neu fusnesau yn erbyn llifogydd. www.floodforum.org.uk.

Cysylltiadau Defnyddiol Argyfwng

 Cymru Gydnerth (cyswllt allanol)

Mae gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng ffynhonnell ganolog o wybodaeth am gynlluniau argyfwng dinesig yng Nghymru. Mae gwefan Cymru Gydnerth yn ffenest i waith a wneir ar draws Cymru, Fforwm Dycnwch Lleol ac o fewn asiantau unigol. Yn ogystal â darparu Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng hefo newyddion a’r ymarfer gorau mae’r safle yn ffynhonnell hefyd o wybodaeth i’r cyhoedd beth i’w wneud yn ystod argyfwng.

 Power Loss & Emergencies (0845 272 2424) (cyswllt allanol)

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig