Daeth y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn weithredol ym mis Hydref 2010. Mae wedi cywasgu naw darn o ddeddfwriaeth yn un Ddeddf unigol, i gymryd lle’r darnau o ddeddfwriaeth a ganlyn: y Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970, y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976, Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gredoau) 2003, y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003, y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oed) 2006, y Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (Rhan 2) a Rheoliadau’r Ddeddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007.
Mae’r Ddeddf yn sefydlu dyletswyddau cyfreithiol disgwylgar ychwanegol i awdurdodau cyhoeddus: Mae’r “dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus” yma mewn dau ran y cyfeirir atynt fel y ddyletswydd gyffredinol a’r dyletswyddau penodol. Mae’r dyletswyddau’n gyflenwol. Ystyr hyn yn ymarferol yw eu bod yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at gwrdd â holl agweddau’r Ddeddf.
Mae’r Ddyletswydd Gyffredinol yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus, wrth iddynt wneud eu swyddogaethau (ac unrhyw bobl eraill wrth iddynt wneud swyddogaethau cyhoeddus), roi sylw dyledus i’r angen am:
Yn ogystal â’r ddyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus cyffredinol newydd a ddaethpwyd i rym gan Lywodraeth y DU yn Ebrill 2011, gwnaeth y Ddeddf ddarpariaethau hefyd i Weinidogion Cymru allu gwneud rheoliadau a gosod dyletswyddau cydraddoldeb penodol i alluogi gwell perfformiad o’r ddyletswydd gyffredinol gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chyflwyno dyletswyddau penodol i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi’u rhestru. Mae’r rhain wedi’u disgrifio yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a daethent i rym ar Ebrill 6 2011.
Mae’r dyletswyddau penodol yng Nghymru’n ymwneud ag:
Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yn gofyn iddynt beidio gweithredu'n anghymesur â'r hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Amddiffyn Hawliau a Rhyddid Sylfaenol. Yn y llysoedd caiff y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (a holl brif ddeddfwriaeth arall y DU) ei ddehongli mewn ffyrdd sy'n gymesur â'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn deillio o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a daeth yn gyfraith ym mis Tachwedd 1998. Roedd yn galluogi i unrhyw berson sy'n ystyried eu bod wedi dioddef trosedd yn erbyn eu hawliau dynol i herio awdurdod cyhoeddus yn y llysoedd neu mewn tribiwnlys.
Pwrpas y Ddeddf Hawliau Dynol yw cefnogi diwylliant o barch i hawliau dynol pawb a nodwedd o fywyd pob dydd. Mae hawliau'r confensiwn yn cynnwys:
Gallwch ganfod rhagor am ddeddfau cydraddoldeb a hawliau dynol drwy ddilyn y dolenni isod:
Mae’r wybodaeth a gynhyrchir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch os gofynnwch amdanynt, yn cynnwys:
Gall ein cwsmeriaid ddewis gwneud eu busnes gyda’r Cyngor yn y Saesneg neu’r Gymraeg. I gwsmeriaid sydd angen cyfathrebu gyda ni mewn ieithoedd eraill gallwn drefnu i gael cyfieithydd ar y ffôn.
Yn ogystal, gallwn drefnu amrywiol gefnogaeth cyfathrebu wyneb yn wyneb megis cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain.
Monitro cydraddoldeb yw’r broses a ddefnyddiwn i gasglu a dadansoddi data am gefndiroedd pobl i’n helpu i ddeall a yw ein polisïau a’n cynlluniau cydraddoldeb yn gweithio ac a ydym yn trin pobl yn deg.
Pwrpas monitro cydraddoldeb yw ein helpu i ganfod risgiau i gydraddoldeb ac atal anghydraddoldeb. Mae’r wybodaeth hon hefyd yn ein helpu i ddeall effaith ein penderfyniadau ar wahanol bobl.
Rydym yn casglu ystod o wybodaeth am amrywiaeth gan ein staff a chwsmeriaid, ac amdanynt hefyd, am fod gofyn i ni gasglu’r wybodaeth hon i gydymffurfio â’r gyfraith. Rydym yn casglu ystod o wybodaeth am amrywiaeth yn cynnwys oed, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn sefydliad teg a chynhwysol.
Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn amharod i rannu’r math yma o wybodaeth bersonol gyda ni. Pob tro y gofynnwn i’n staff neu gwsmeriaid am yr wybodaeth hon, byddwn bob amser yn esbonio’n glir i beth y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ac ni fyddwn byth yn ei ddatgelu i drydydd partïon.
Asesiad o effaith cydraddoldeb (EIA) yw’r term sy'n disgrifio’r broses o asesu beth fydd canlyniadau posibl neu debygol polisïau neu arferion arfaethedig neu ddiwygiedig. Mae’r Cyngor yn gwneud asesiadau o effaith cydraddoldeb i’w helpu i ddatblygu cydraddoldeb a gwella canlyniadau i bobl Wrecsam.
Mae EIA yn canolbwyntio’n benodol ar ganfod y gwahanol ffyrdd y gallai gwahanol bobl gael eu heffeithio gan gynnig.
Mae’r Cyngor yn cofnodi asesiadau cyflawn mewn system o’r enw ‘EASI – ystyr hyn yw Mynegai a System Asesu Cydraddoldeb.
Yn ogystal ag edrych am ffyrdd o ostwng effeithiau negyddol, mae asesiadau o’r fath yn ein helpu i ganfod cyfleoedd i wella canlyniadau a chael effaith fwy positif ar bobl sydd dan fwy o risg o ddioddef (neu wedi bod yn dueddol yn y gorffennol o ddioddef) eithrio, unigrwydd ac anfantais.
Mae asesiad o effaith cydraddoldeb yn ein helpu i
I gael rhagor o wybodaeth am ymdriniaeth y Cyngor â chydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol, e-bostiwch equality@wrexham.gov.uk neu ffoniwch Reolwr Cydraddoldeb y Cyngor ar 01978 292808.