Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am adnoddau sydd ar gael ar y wefan hon gan gynnwys dulliau symud o gwmpas y safle a chyswllt gyda safleoedd gyda chyngor hygyrchedd a gwybodaeth am bori'r safle gydag offer darllen sgrin, yn ogystal â manylion am fysellau mynediad a gwybodaeth am y porwr ac opsiynau hygyrchedd.
Mae'r dudalen hon ar gael o bob tudalen o wefan Cyngor Wrecsam.
Newyddion: Gwrandewch ar y wefan
Newyddion: Arweiniad i Hygyrchedd Canol Tref Wrecsam
Er mwyn hyrwyddo Wrecsam fel ardal arloesol a diddorol i fwy, ymweld a buddsoddi ynddi, mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y Cyngor a'i wasanaethau.
Dyluniwyd y wefan i fod yn hygyrch i gymaint o ddefnyddwyr a phosibl, mae'r tudalennau wedi eu hoptimeiddio a gellid eu gweld orau drwy osod eich sgrin i 800x600 picsel a defnyddio porwyr fersiwn 4 neu uwch. (Internet Explorer a Netscape Navigator). Er mwyn cael y gorau o'r delweddau lliw sydd ar y tudalennau hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio dyfnder mwy na 256 o liwiau.
Gellir symud o gwmpas y wefan drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol:
Defnyddio dewislen lywio'r cynnwys fel cyswllt i brif rannau cynnwys y safle, megis y Cyngor neu Hamdden a Thwristiaeth.
Defnyddio llywiwr cyffredinol y safle ar y dechrau sydd hefyd ar ddiwedd pob tudalen:
Adref: cyswllt i dudalen hafan Cyngor Wrecsam
Cynnwys y Safle: cyswllt i dudalen Cynnwys y Safle sy'n cynnwys amlinelliad o strwythur y wefan a chyswllt i'r cynnwys
Canllaw Mynediad: cyswllt i'r sgrin hon
Cysylltwch â ni: cyswllt i'r ffurflen atborth a'r dudalen gysylltu
Mae'r mynegai A-Y yn darparu manylion cyswllt Gwasanaethau'r Cyngor sydd o ddiddordeb i chi yn nhrefn yr wyddor
Mae rhai tudalennau gyda dewislen cynnwys ychwanegol sy'n galluogi i ddefnyddwyr symud at brif adrannau neu destun o ddiddordeb penodol o fewn y pwnc sydd o dan sylw.
Gallwch hefyd cael mynedfa i'r Wefan wrth defnyddio un or cyfeiriadau fyr e.e. www.wrecsam.gov.uk/cynghorydd.
Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i wneud eu gwefan mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr, gan gynnwys defnyddwyr dall neu brin eu golwg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw'r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i
dderbyn logo Gwefan Glir "Gweld yn Gywir" Cymdeithas Frenhinol
Genedlaethol y Deillion.
Rhoddir y logo gan CFGD (RNIB) i wefannau sydd wedi'u hasesu'n ffurfiol
ganddynt ac sy'n darparu safon hygyrchedd uchel.
Mae dyluniad ein gwefan yn cynnwys nifer o nodweddion hygyrchedd gan gynnwys:
cynllun cyffredin drwyddo draw yn hytrach na darparu tudalennau testun yn unig i ddefnyddwyr ag anableddau, ac yn caniatau newid maint yr ysgrifen a'i liw i gydweddu ag anghenion y defnyddiwr.
sicrhau bod yr holl ddelweddau a ddefnyddir ar ein safle â disgrifiadau testun addas gwahanol ("ALT texts"), fel sy'n ofynnol gan ganllawiau cydnabyddedig rhyngwladol hygyrchedd gwefannau. Mae bysellau llywio graffeg hefyd yn defnyddio ALT.
er mwyn cynorthwyo defnyddwyr testun yn unig a phorwyr sain, rydym wedi cynnwys cyfleuster hygyrchedd cudd, sy'n galluogi i'r defnyddiwr 'adael' bysellau llywio y brif dudalen (yn hytrach na gorfod pwyso tab ar ddechrau pob tudalen). Felly, gall y defnyddiwr symud i'r dudalen gynnwys yn syth.
rydym bob amser yn ceisio osgoi defnyddio fframiau ar brif wefan y cyngor.
mae'r wefan hon yn defnyddio ffeil PDF (Adobe Acrobat) ar gyfer argraffu dogfennau sylweddol neu gymhleth. Nodwch y gellir trosi dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen drwy ddefnyddio gwasanaeth trosi Adobe ar y we.
mae'r safle hefyd yn argraffu dogfennau ar ffurf Microsoft Word.
I archwilio ac argraffu ffeiliau Microsoft Word mae'n rhaid i chi
fod wedi gosod Word ar eich cyfrifiadur neu gallech lwytho meddalwedd
Microsoft Word Viewer
cliciwch yr icon hwn i lwytho'r meddalwedd
Rydym yn ceisio gwella nodweddion hygyrchedd www.wrexham.gov.uk,
ac yn croesawu eich awgrymiadau a'ch sylwadau.
Os ydych yn profi unrhyw broblemau hygyrchedd neu dechnegol pan yn
defnyddio'r safle, anfonwch ebost at Dîm Datblygu'r Wefan: webmaster@wrexham.gov.uk
neu cwblhewch y ffurflen atborth ar-lein.