Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar waith Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wrth baratoi ar gyfer gweithredu Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Ynglyn â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Aeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("y Ddeddf") drwodd ar 30 Tachwedd 2000. Mae'n rhoi hawl i weld cyffredinol o safbwynt pob math o wybodaeth "a gofnodir" a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus (h.y. y llywodraeth a chyrff eraill sector cyhoeddus), mae'n nodi eithriadau i'r hawl honno ac yn rhoi nifer o gyfrifoldebau ar awdurdodau cyhoeddus.

Mae gan unigolion hawl eisoes i weld gwybodaeth arnynt hwy eu hunain dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Bydd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn yr hawliau hyn i ganiatáu i bobl weld pob math o wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, boed yn bersonol ai peidio. Gorfodir y Ddeddf gan y Comisiynydd Gwybodaeth, swydd newydd sy'n cyfuno Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data.

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Daw'r Ddeddf i rym mewn 2 ran. Erbyn Chwefror 2003, bydd y Cyngor yn cyhoeddi "Cynllun Cyhoeddi". Canllaw fydd hwn i'r wybodaeth a gyhoeddir gan y Cyngor fel mater o drefn. Ni fydd yn rhestru cyhoeddiadau penodol gan y bydd y rhain yn newid o bryd i'w gilydd, ond yn hytrach bydd yn rhestru categorïau neu fathau o wybodaeth a gyhoeddir gan y Cyngor. Bydd y Cynllun yn esbonio sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyhoeddi'r gwahanol fathau o wybodaeth, ac a godir tâl ai peidio.

Daw'r hawl i weld cyffredinol i rym ym mis Ionawr 2005. Yn ddarostyngedig i'r eithriadau, rhaid hysbysu unrhyw berson sy'n cyflwyno cais ysgrifenedig, gan gynnwys trwy e-bost, os yw'r awdurdod cyhoeddus yn cadw'r wybodaeth ac os ydyw, rhaid cyflenwi'r wybodaeth honno. Gan fod y Ddeddf yn gwbl ôl-weithredol, bydd rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddarparu gwybodaeth a gofnodwyd cyn ac ar ôl i'r Ddeddf fynd drwodd.

Mae'r Ddeddf yn nodi 23 o eithriadau, 8 o'r rhain yn rhai "ddiamod". Mae'r gweddill yn destun prawf budd cyhoeddus. Hynny yw, mae gan yr awdurdod ddyletswydd i ystyried os oes angen datgelu er budd y cyhoedd. Bydd angen ystyried y rhan fwyaf o'r eithriadau mewn dau gam. Yn gyntaf, bydd angen i'r awdurdod benderfynu os yw'r eithriad yn berthnasol i'r cyfan neu ran o'r wybodaeth a geiswyd, ac yn ail, os yw yn berthnasol, yna bydd angen i'r awdurdod benderfynu os oes yn rhaid iddo ddatgelu er budd y cyhoedd, er gwaethaf yr eithriadau.